Pen-y-bont ar Ogwr
bridgendsolutions@thewallich.net
01656 674 184
Gwasanaeth sy’n cynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth wedi’i deilwra ar gyfer pobl sy’n ddigartref neu’n wynebu anawsterau tai yw y Ganolfan Atebion

Amseroedd Agor
Mae’n rhedeg sesiwn galw heibio yn y boreau (Llun – Gwener, 9:20am – 12:00pm) a sesiwn apwyntiadau yn unig yn y prynhawniau.
Polisi drws agored Llun
Gwener 9:30am- 12:00pm
System apwyntiadau fwy ffurfiol
1:00pm – 5:00pm yr un diwrnodau
Ein cefnogaeth
Gall y Ganolfan Atebion helpu pobl i:
- Ddod o hyd i lety priodol
- Rheoli ôl-ddyledion rhent a dyledion eraill
- Hawlio unrhyw fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt
- Chyfeirio pobl at asiantaethau perthnasol eraill
Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig cyfleusterau cawod, peiriant golchi dillad a pheiriant sychu dillad, a mynediad at ffôn a chyfrifiadur. Yn ogystal, cynigir fwyd a dillad mewn argyfwng, cyfeiriad post a chyfleusterau cyfnewid nodwyddau.
Gall ein gweithiwr atebion hefyd fynd i syrjeris mewn cymunedau lleol ym mwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr pan fo angen.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.
