Mae Vaccines For All yn ymgyrch ledled y DU sy’n galw ar lywodraethau i sicrhau mynediad cyfartal at frechlynnau’r Coronafeirws, ni waeth beth yw eu statws mewnfudo, ID neu brawf o gyfeiriad.
Mae ymgyrch Vaccines For All yn bryderus, oherwydd yn sgil polisïau mewnfudo ‘Amgylchedd Gelyniaethus’ Swyddfa Gartref y DU, y gallai pobl fod yn amharod i gofrestru ar gyfer apwyntiadau brechu a mynychu’r apwyntiadau hynny oherwydd eu bod yn ofni y byddai eu gwybodaeth yn cael ei rhannu â sefydliadau gorfodi mewnfudo.
Mae dros 230 o sefydliadau wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn galw am roi terfyn ar yr Amgylchedd Gelyniaethus yn y GIG, er mwyn i fudwyr allu cael y brechlyn COVID-19 yn ddiogel.
Yng Nghymru, lle mae iechyd wedi’i ddatganoli, mae’r un gofynion wedi cael eu cyflwyno mewn llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AS a’r Prif Weinidog Mark Drakeford AS.
Mae’r Wallich yn ymuno â’r alwad hon gan sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys Medact, Migrants Organise, Alltudion ar Waith a Doc Not Cops Abertawe.
Mae’r ymgyrch yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, i wneud y canlynol:
Mae’r Wallich yn cefnogi nifer o gleientiaid heb statws mewnfudo sefydlog. Mae mudwyr a phobl sy’n ddigartref yn wynebu anawsterau cyffredin hefyd.
Wrth siarad fel rhan o’n hymgyrch ddiweddar ar gyfer mynediad at frechlynnau, dywedodd prif weithredwr y Wallich, Dr Lindsay Cordery-Bruce, “Pan nad oes gennych chi gyfeiriad, gall fod yn anodd cael neu gadw cofnod o apwyntiadau. Bydd cyflwyno brechlynnau’n llwyddiannus i bobl sy’n ddigartref weithiau’n golygu mynd atyn nhw, ar eu telerau nhw.”
Mewn ymateb i’r ymgyrch, dywedodd Dr Henry Hobson, meddyg yn Abertawe, “Dylai mudwyr allu cael gafael ar ofal iechyd heb boeni y bydd eu gwybodaeth bersonol yn cael ei rhannu ag awdurdodau mewnfudo.
Mae Cymru’n anelu at fod yn ‘Wlad Noddfa’ –nawr yw’r amser i ddechrau gweithredu felly.”
Dywedodd Aliya Yule, Trefnydd Mynediad at Ofal Iechyd yn Migrants Organise, “Dydy cynigion diogelwch dros dro ddim yn ddigon i ddadwneud y degawdau o niwed a achoswyd gan bolisïau strwythurol hiliol sydd wedi ymgorffori rheolaethau mewnfudo mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Yr unig ateb ymarferol yw diddymu’r holl bolisïau Amgylchedd Gelyniaethus yn syth a chreu GIG sydd wir yn bodloni’r egwyddor o fynediad cyffredinol i bawb.”
Mewn arolwg diweddar o brofiadau mudwyr sy’n ceisio cael mynediad i’r GIG, canfu’r Cyd-gyngor er Lles Mewnfudwyr fod 43% o fudwyr yn ofni ceisio gofal iechyd oherwydd eu bod yn ofni y byddai eu statws yn cael ei brofi neu y byddai ffi yn cael ei chodi arnynt.
Roedd 56% o’r rhai a oedd â statws ffoadur yn amheus o gael mynediad at ofal iechyd oherwydd ofnau ynghylch rhannu data rhwng y GIG a’r Swyddfa Gartref. Roedd y ffigur hwn yn codi i 81% ar gyfer y rhai heb statws swyddogol.
Mae gwaith ymchwil gan Doctors of the World yn cefnogi’r canfyddiadau hyn. Hyd yn oed gyda chymorth gan gorff anllywodraethol, gwrthodwyd, ar gam, i gofrestru tua 1 o bob 5 o fudwyr â meddyg teulu.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch dros fynediad cyfartal at frechlynnau ar gyfer grwpiau sydd ar y cyrion, ewch i Vaccines For All.