Wythnos Gwirfoddolwyr – cael effaith fawr ar ddigartrefedd yng nghanol pandemig y Coronafeirws

03 Jun 2020

Dydd Llun 1 Mehefin – dydd Sul 7 Mehefin yw Wythnos Gwirfoddolwyr, dathliad blynyddol o’r rheini sy’n neilltuo amser i helpu eraill.

Yn The Wallich, byddai hyn fel arfer yn cael ei ddathlu drwy gynnal digwyddiadau ar hyd a lled Cymru i gael ein gwirfoddolwyr at ei gilydd i ddweud diolch. Fodd bynnag, mae’r flwyddyn hon ychydig yn wahanol.

Er nad ydym yn gallu dathlu’n bersonol, rydym am ganolbwyntio ar ddweud diolch i bob un o’n gwirfoddolwyr.

Mae gennym lawer o wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi neilltuo amser yn rheolaidd ac yn gyson i wneud rhywbeth ynghylch digartrefedd.

Iddyn nhw – rydym am i chi wybod bod eich cefnogaeth ddiysgog yn hollbwysig.

Wynebau newydd

Fel y rhan fwyaf o wledydd drwy’r byd, mae Cymru’n wynebu heriau o ran y cyfyngiadau symud; gweithwyr yn cael eu rhoi ar ffyrlo neu’n gweithio o gartref.

Fodd bynnag, gan fod mwy o amser rhydd gan rai pobl, mae llawer wedi teimlo’r awydd i wneud rhywbeth i helpu eu cymuned.

Ers mis Mawrth, mae 15 o bobl wedi ymuno â’n tîm o arwyr The Wallich, yn benodol i ddarparu cymorth o ganlyniad i’r Coronafeirws.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi derbyn mwy na 40 o geisiadau i fod yn wirfoddolwyr pan fydd angen neu yn y dyfodol.

Dyma beth oedd gan rai o arwyr The Wallich i’w ddweud am eu hamser yn gwirfoddoli.

Dywedodd Andrea, sy’n gwirfoddoli ym mhrosiect Sector Rhentu Preifat (PRS) The Wallich yn Abertawe:

“Rwyf wedi mwynhau’r teimlad o fod yn rhan o’r tîm PRS sy’n gefnogol iawn yn Abertawe.

“Rwyf bob amser wedi cael fy niweddaru am unrhyw newidiadau i’r sefydliad, ac wedi gwerthfawrogi hynny’n arw.

“Dydw i erioed wedi teimlo mai dim ond gwirfoddolwr oeddwn I.”

textimgblock-img

Dyma a ddywedodd tîm Ad-dalu Cymunedol Caerdydd a’r Fro Gwasanaethau Prawf Cymru:

“Mae’r gwaith hwn [o gyflenwi bwyd i brosiectau ar draws Caerdydd] yn dangos pwysigrwydd sefydliadau cymunedol yn gweithio gyda’i gilydd mewn partneriaeth, nid yn unig yn ystod cyfnod COVID-19, ond ar ôl hynny.

“Rydym mor falch o fod wedi creu cysylltiadau cryf a fydd yn parhau i’r dyfodol.”

Dywedodd Ryan, Swyddog Gwirfoddol Corfforaethol a Chymunedol yn The Wallich:

“Hoffwn ddweud mor ddiolchgar ydw i am yr holl waith caled mae ein gwirfoddolwyr wedi bod yn ei wneud ar hyd y flwyddyn.

“Yn The Wallich, rydym yn credu mewn creu cyfleoedd i bawb ac rydym yn parhau i weld twf yn y niferoedd sy’n gwirfoddoli.

“Yn bwysicach na hynny, yw gweld y datblygiad yn yr unigolion sy’n gwirfoddoli a chlywed y straeon anhygoel am rai sydd wedi bod yn gwirfoddoli ac yna’n sicrhau gyrfaoedd yn The Wallich.

“Mae’r ymdrech gymunedol wedi bod yn hynod o gadarnhaol ac rydym wedi gweld cynnydd yn y galw am wirfoddoli yn ystod argyfwng COVID-19.

“Mae’n dangos pa mor eangfrydig ac anhunanol yw’r gymuned.

“Rwyf i, ein cleientiaid a holl staff Wallich yn diolch o galon am eich amser rhydd.”

Os ydych yn adnabod unrhyw un sy’n gwirfoddoli ar gyfer eich cymuned, manteisiwch ar Wythnos Gwirfoddolwyr 2020 i ddweud diolch – rydym yn gwybod y byddant yn ei werthfawrogi

Tudalennau cysylltiedig