Y Wallich a TVO yn dod â’u partneriaeth swyddogol i ben

28 Feb 2020

Daeth TVO a’r Wallich yn bartneriaid yn 2015 er mwyn darparu gweithdai i drigolion a defnyddwyr gwasanaeth y Wallich ledled Cymru. Roedd y gweithdai’n edrych ar ddigartrefedd a materion cysylltiedig. Roeddent yn edrych ar sut mae’r materion hyn yn effeithio ar y bobl y mae’r Wallich yn eu cefnogi a sut gallant gael gwared â’r labeli a’r stigma sy’n cael eu rhoi arnynt.

Roedd y gweithdai hyn yn defnyddio dulliau theatr cynhwysol – sef dull cyfranogol o weithio gyda straeon sydd wedi’u creu gan bobl na fyddai’n creu theatrau fel arfer, straeon cynhwysol sy’n herio gwahaniaethu ac ymylu.

Helpodd y gweithdai i ffurfio’r sylfaen ar gyfer y prosiect theatr hynod lwyddiannus, sef ‘Tu Ôl i’r Label’. Roedd y prosiect yn rhoi’r cyfle i bobl a oedd wedi bod yn ddigartref a phrofi dibyniaeth ddefnyddio eu llais a herio stigma a gwahaniaethu. Mae’r prosiect yn parhau ac yn cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Wrth i’r bartneriaeth ddatblygu, yn 2016, gwnaeth y Wallich a TVO ffurfioli eu trefniadau gwaith i edrych ar ddefnyddio ymyriadau therapiwtig gyda phobl sy’n wynebu problemau iechyd meddwl a dibyniaeth.

Yn ei dro, fe wnaeth hyn arwain at y ddau sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd wrth i’r Wallich weithio at ddod yn sefydliad sy’n wybodus yn seicolegol. Gwnaethant ymgorffori egwyddorion PIE (Amgylcheddau sy’n Wybodus o Safbwynt Seicolegol), nid yn unig ar draws mannau ffisegol adeiladau’r elusen, ond drwy eu ffyrdd o weithio a chefnogi pobl ar bob lefel.

Wrth symud ymlaen, bydd TVO yn canolbwyntio’n ôl ar ei brosiectau therapiwtig adnabyddus, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Hoffai’r Wallich ddymuno pob llwyddiant i TVO gyda’i ymgyrchoedd newydd.

Mae’r Wallich wrthi’n datblygu partneriaeth newydd i gefnogi eu gwasanaethau seicolegol ac maent yn disgwyl cyhoeddi’r berthynas yn fuan

Tudalennau cysylltiedig