Ymgyrch y gaeaf yn codi £34K i leddfu’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Diolch i’n cefnogwyr hael a thrugarog, gall The Wallich barhau i helpu pobl sydd mewn perygl o ddigartrefedd yng Nghymru.

21 Feb 2024

Ym mis Hydref 2023, fe wnaethon ni lansio ymgyrch flynyddol y gaeaf i godi arian

Ein nod oedd rhoi hwb i’n cronfa gyllid sy’n lleddfu’r caledi sy’n wynebu’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi sy’n profi digartrefedd, mewn perygl o ddigartrefedd neu mewn cartrefi agored i niwed ledled Cymru.

Mae aelwydydd ledled y DU yn teimlo’r pwysau yn sgil yr argyfwng costau byw parhaus. Serch hynny, mae’r effaith yn amrywio’n fawr.

Boed yn gwtogi ar fwyta allan, peidio â throi’r gwres ymlaen neu hepgor prydau, mae gan bawb eu stori eu hunain i’w hadrodd.

staff member and service user talking in kitchen

Cyfanswm a godwyd: £34,162.04

Mae ein cefnogaeth yn esblygu’n barhaus i helpu i ddiwallu anghenion pawb. Hebddoch chi – ein cefnogwyr – ni fyddem yn gallu helpu cymaint o bobl ag y gwnawn.

Rydyn ni mor ddiolchgar ac wedi ein syfrdanu gyda’r gefnogaeth a dderbyniwyd.

textimgblock-img

Cymorth unigolion

O £2 i £200, rydyn ni mor ddiolchgar am bob person a roddodd yr hyn a allen nhw.

Rhoddodd nifer ohonoch chi ar-lein, yn ein casgliadau bwced neu wedi prynu eitemau o siop The Wallich.

Rhoddodd rhai un rhodd ac ymrwymodd eraill i wneud cyfraniad misol.

Mae pob rhodd, beth bynnag fo’i faint, yn ein helpu i gadw pobl i fynd ac i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.

Raffl y Gaeaf The Wallich

Roedd Raffl y Gaeaf The Wallich yn ffordd hawdd i bobl wneud eu rhan i gefnogi ein hymgyrch dros y gaeaf, gyda thocynnau yn dechrau o £2 yn unig.

Bath items basket drawing sketch

Roedd y gwobrau’n cynnwys 2 x ffrïwr-aer dau litr, taleb Love2Shop gwerth £150 a basged picnic gwiail moethus oddi wrth y Welsh Hamper Company.

Gyda chymorth ein gwerthwyr cymunedol anhygoel, codwyd cyfanswm o £2,662.

Os wnaethoch chi chwarae, maer holl enillwyr wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan.

Cymorth cymunedol

Mae dod â’r gymuned at ei gilydd yn ein helpu ar hyd y llwybr i ddatrys digartrefedd.

Rydyn ni wedi derbyn cefnogaeth aruthrol gan grwpiau cymunedol ledled Cymru yn ystod ymgyrch y gaeaf.

Hoffem ddiolch i’r holl gymunedau a’n cefnogodd y gaeaf hwn. Dyma rai o’r sêr gwych a’n cefnogodd eleni:

  • Cyfrannodd Clybiau Rotari Caerdydd siacedi dal dŵr Regatta newydd sbon gwerth bron i £1,500 er mwyn i’n cleientiaid gadw’n gynnes ac yn sych drwy fisoedd y gaeaf.
  • Cododd disgyblion Blwyddyn Pump Ysgol Gynradd Sain Tathan £760 drwy arddangos eu doniau artistig yn gwerthu addurniadau Nadolig hardd, wedi’u gwneud â llaw, yn eu Ffair Nadolig. Yn ogystal â chynnal Diwrnod Onesie The Wallich a chysgu dros nos yn yr ysgol.
  • Cododd Dave Mathias £685 drwy werthu canhwyllau cartref wedi’u hailgylchu i’r gymuned.
  • Cafwyd gwahoddiad gan Eglwys Dewi Sant i’w gwasanaeth Nadolig blynyddol wrth i ni gael ein dewis fel yr elusen ar gyfer eu casgliad. Codwyd cyfanswm o £600 yn y gwasanaeth a thrwy eu hapêl Plât y Nadolig ym mis Rhagfyr ac Ionawr.
  • Fe wnaeth cigyddion, archfarchnadoedd a bwytai gwych ledled Cymru ein helpu i gyflenwi ciniawau Nadolig i breswylwyr sy’n byw yn ein hosteli ac yn y gymuned. Cyfrannodd Asda Queensferry dwrci Nadolig i ddefnyddwyr gwasanaethau Glanrafon.
Photo: Rasoi restaurant, Swansea
Rasoi, Swansea

 

Cymorth corfforaethol

Mae sawl sefydliad ledled Cymru wedi bod yn rhan o’r ymateb cymunedol i ddigartrefedd.

Diolch o galon i:

  • Fe wnaeth BESA, y Gymdeithas Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, ymrwymo i nifer o ddigwyddiadau codi arian. Drwy eu mentrau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, codwyd swm anhygoel o £2760.92.
  • Yn ogystal â’u cefnogaeth barhaus drwy gydol y flwyddyn, cawsom ein gwahodd gan Tokio Marine HCC i ddiwrnod agored eu swyddfa newydd i werthu tocynnau Raffl y Gaeaf, ac fe wnaethon nhw gyfrannu hetiau gwlanog a Chardiau Nadolig hefyd, a rhoddwyd £100 i ni ar y dydd.
  • Fe wnaeth ISG ein rhoi ni mewn cysylltiad â Pinnacle Furniture, a roddodd rai eitemau newydd o ansawdd uchel i ni ar gyfer ein hosteli.
  • Cyfrannodd Spirit of 58 hetiau a sgarffiau clyd newydd sbon ar gyfer ein cleientiaid yn Sir Gâr.
  • Cafwyd gwahoddiad gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gynnal casgliad bwced yng ngêm merched Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn yr Almaen yn Abertawe.
  • Gweithiodd myfyrwyr TGAU celf, Elliott a Mrs Sian Reardon yn Ysgol Gymunedol Sant Cenydd gyda Grounds For Good i ddylunio darn o gelf pwrpasol wedi’i argraffu ar fagiau cario ecogyfeillgar i godi arian ar gyfer The Wallich. Dewiswyd cynllun Elliott fel y logo buddugol, a gwerthwyd 50 o fagiau yn Ffair Nadolig Sant Cenydd.
  • Cyfrannodd bwyty Rasoi yn Abertawe bryd Nadoligaidd i breswylwyr ein hosteli.

staff members at The Wallich stall

Dywedodd Chelsea Harrington sy’n codi arian ar gyfer The Wallich:

“Diolch yn fawr iawn i bawb a ddangosodd eu cefnogaeth y gaeaf hwn. Bydd y ceiniogau a’r punnoedd yn mynd yn bell i gadw pobl i fynd ar adegau anodd.

Mae’r argyfwng costau byw yn parhau i roi pwysau ar deuluoedd ac unigolion, gan roi llawer mwy o bobl mewn perygl o ddigartrefedd.

Mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i gweld y gaeaf hwn wedi bod yn ysbrydoledig a bydd yn sicrhau bod ein staff yn gallu parhau i fod yno i unrhyw un sydd ein hangen.

Ni allwn wneud yr hyn a wnawn heb eich cefnogaeth barhaus.

Diolch yn fawr!”

Ni ddaw digartrefedd i ben gyda’r tymhorau
Ffyrdd i gefnogi The Wallich drwy gydol 2024

Mae ymgyrch flynyddol y gaeaf wedi dod i ben ond, mae yna ffyrdd o barhau i gefnogi The Wallich.

Mae The Wallich yno i bobl 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a byddwn yn parhau i gefnogi pobl cyhyd â bo angen.

Cefnogwch The Wallich a helpwch i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.