Phill Stapley

Arweinydd Gweithredol Strategol

| 02921 508 833
Rheolwr Ardal De Cymru

“Rydw i wrth fy modd ag amrywiaeth fy swydd, mae bob amser yn brysur iawn ac rydw i’n goruchwylio timau sy’n gwneud gwaith gwych. Rydyn ni mor ffodus o gael pobl ryfeddol ac ymroddedig yn gweithio i roi diwedd ar ddigartrefedd”.

Phill yw’r Arweinydd Gweithredol Strategol ar gyfer De Orllewin Cymru. Mae’n gyfrifol am 18 o brosiectau a mwy yn Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, ochr yn ochr â bod yn rheolwr llinell i dri Rheolwr Ardal.

Mae Phill wedi gweithio ar draws y sector gofal, cymorth a digartrefedd ers dros 15 mlynedd.

Gan ddechrau ar ei yrfa fel Gweithiwr Cymorth a gweithio ei ffordd i fyd rheoli, mae Phill bellach yn falch o fod yn berson amlwg yn The Wallich.

Mae cefndir Phill yn ymwneud ag iechyd meddwl ac ymddygiad heriol. Mae ganddo brofiad helaeth fel hyfforddwr, yn cyflwyno cyrsiau ymddygiad heriol.

Mae wedi rheoli cynlluniau amrywiol yn ystod ei yrfa, gan gynnwys gweithio i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae Phill yn falch o ddefnyddio a rhannu ei brofiadau a’i wybodaeth i gefnogi ei dimau bob diwrnod gwaith.

“Weithiau mae pobl yn cael eu hystyried fel set o broblemau, ond rydw i’n credu os byddwch chi’n ceisio darparu cefnogaeth a thrin y person yn iawn, yna bydd y broblem yn diflannu’n fuan iawn.”

Arbenigeddau

  • Ymddygiad geriol
  • Iechyd meddwl
  • De-orllewin Cymru

Tudalennau cysylltiedig