Rwy’n cael fy ysbrydoli wrth weithio gyda chynifer o bobl dosturiol sy’n darparu ystod mor amrywiol o gefnogaeth i unigolion bob dydd. Maen nhw’n gofalu am ei gilydd ac yn gwneud yn siŵr bod pawb yn rhan o’r tîm.
Sophie yw’r Arweinydd Gweithredol Strategol yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.
Mae’n goruchwylio amrywiol wasanaethau ar draws y rhanbarth, gan gynnwys hosteli, llety â chefnogaeth, cymorth fel y bo’r angen, allgymorth a Tai yn Gyntaf.
Mae Sophie wedi gweithio yn y sector digartrefedd yng Nghymru ers 2010, gan ddechrau yn rheoli gwasanaethau The Wallich yn Sir Ddinbych.
Yna, cafodd brofiad gyda’r awdurdod lleol, yn datblygu a chomisiynu prosiectau Cefnogi Pobl.
Dychwelodd i The Wallich yn 2016 fel Rheolwr Ardal, cyn symud ymlaen i’w rôl bresennol fel Arweinydd Gweithredol Strategol yn 2021.
Mae Sophie wedi ymrwymo i wella ac arloesi’n barhaus, gan ddefnyddio ei gwybodaeth i wella gwasanaethau yn ei rhanbarth ac i hyrwyddo arferion gorau ar draws y sefydliad.
Mae hi’n falch o arwain tîm o staff ymroddedig sy’n aml yn mynd yr ail filltir i gefnogi pobl allan o ddigartrefedd a’u helpu i fanteisio ar gyfleoedd sy’n ystyrlon iddyn nhw.
Mae gan bawb yr hawl i deimlo’n ddiogel, yn fodlon ac yn hapus. Rwy’n benderfynol o gyflawni hynny drwy drin pobl fel unigolion, eu cefnogi i wneud eu dewisiadau eu hunain a dod yn annibynnol.