Anthony Vaughan

Arweinydd Gweithredol Strategol – Arloesi a Gwella Gwasanaeth

|
Anthony Vaughan

Mae gan Anthony dros 19 blynedd o brofiad yn y sector digartrefedd yng Nghymru. Mae wedi datblygu arbenigedd mewn ymarfer sy’n ystyriol o drawma, datblygu gwasanaeth ac arloesi, lleihau niwed, gweithio mewn partneriaeth ac arweinyddiaeth sefydliadol.

Mae Anthony wedi chwarae rôl arwyddocaol wrth ddatblygu polisïau, gweithdrefnau a dulliau The Wallich o ymwneud â gwasanaethau digartrefedd sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol a thrawma, gan gymryd yr awenau fel arweinydd sector mewn arferion gorau ar draws y sefydliad.

Mae wedi arwain gwaith sy’n ymwneud â mynediad at gwnsela, cynhwysiant ym maes iechyd, ymgysylltu creadigol a chyfranogiad drwy brofiad personol, gan ganolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl sy’n wynebu rhai o’r heriau mwyaf cymhleth yn ein cymdeithas.

Mae Anthony yn angerddol ynglŷn â chynnwys pobl mewn ffordd ystyrlon a chydgynhyrchu, ac mae wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i bobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd gael dylanwadu ar wasanaethau, gwirfoddoli a chael llwybrau at gyflogaeth.

Mae’n cael ei ysgogi gan gred bod cefnogaeth dosturiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac yn ystyriol o drawma yn gallu helpu pobl i adeiladu dyfodol mwy diogel, ac iachach, sy’n rhoi mwy o foddhad iddynt.

“Dyw’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi ddim yn bobl sydd â rhywbeth o’i le arnyn nhw, maen nhw’n bobl y mae rhywbeth wedi digwydd iddyn nhw. Maen nhw’n bobl sydd wedi goroesi trawma.”

Arbenigedd

  • Digartrefedd a Thai
  • Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIE)
  • Dulliau ystyriol o drawma
  • Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma
  • Lleihau niwed
  • Defnyddio sylweddau
  • Stigma ac iaith
  • Adeiladu perthnasoedd
  • Hyfforddiant staff
  • Polisi a gweithdrefnau
  • Profiad personol a chydgynhyrchu