Rheolwyr Ardal ac Arweinwyr

| 02920 668 464

Andrew Craven

Rheolwr Ardal – Gogledd-ddwyrain

Dechreuodd Andrew weithio i The Wallich yn 2018 fel Rheolwr Gwasanaeth yn Wrecsam, yn dilyn gyrfa mewn cyfiawnder troseddol.

Cyn hyn, Andrew oedd Rheolwr Gweithredol Cymdeithas Dai Moseley a’r Cylch.

Yn dilyn hynny daeth yn rheolwr cofrestredig yn rhedeg tŷ gofal a chwmnïau cartref.

Dychwelodd Andrew i The Wallich yn 2024 fel Rheolwr Ardal dros Ogledd-ddwyrain Cymru a Phowys, sy’n cynnwys Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Phowys.

Mae ei gylch gwaith yn cynnwys ystod o wasanaethau digartrefedd megis llety dros dro a chymorth lle bo’r angen – helpu i gadw pobl yn eu cartrefi – yn ogystal â gwasanaethau sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau.

Mae Andrew yn gweithio mewn partneriaeth â chomisiynwyr awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth digartrefedd o safon uchel sy’n ystyriol o drawma.

“Yr unig ffordd o roi diwedd ar ddigartrefedd yw drwy gael pawb i weithio gyda’i gilydd mewn partneriaethau effeithiol.”

Arbenigedd

  • Digartrefedd
  • Cyfiawnder troseddol
  • Defnyddio sylweddau
  • Rheoli tai
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Partneriaethau
  • Arweinyddiaeth
  • Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Phowys

 

Anna Hooper (Hi/Ei)

Rheolwr Ardal – Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Mae gan Anna 23 blynedd o brofiad o weithio yn y sector tai a chymorth.

Ymunodd Anna â The Wallich yn 2017 ac mae wedi rheoli nifer o brosiectau, gan gynnwys Cefnogi Tenantiaid, Ailgartrefu Cyflym a Thai yn Gyntaf Abertawe.

Gwnaeth Anna a’i thîm Ailgartrefu Cyflym raglen ddogfen gyda Wales This Week ar ITV, yn tynnu sylw at effaith Covid ar awdurdodau lleol, a sut mae hyn wedi cyfrannu at argyfwng tai Cymru a’r gwasanaethau a gomisiynwyd gan The Wallich i ymateb i’r cynnydd mewn digartrefedd.

Cafodd tîm a gwasanaeth Tai yn Gyntaf Anna eu hachredu’n swyddogol yn 2025 gan Cymorth Cymru a dyma’r pedwerydd gwasanaeth i dderbyn Achrediad Tai yn Gyntaf yng Nghymru.

Mae Anna wedi bod yn Rheolwr Ardal ar y cyd yn ei rhanbarth er 2023, gan oruchwylio 7 gwasanaeth yn Abertawe, sy’n cynnwys cyfuniad o brosiectau preswyl a gwasanaethau allgymorth.

Yn ystod ei chyfnod yn The Wallich, mae Anna wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau rheoli, gan gwblhau ILM Lefel 4, a bellach mae’n gweithio tuag at ILM Lefel 5.

“Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd gyda’n gilydd.”

Arbenigedd

  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • Digartrefedd
  • Tai yn Gyntaf
  • Ailgartrefu Cyflym
  • Anghenion cymhleth
  • Partner cynghrair
  • Lleihau niwed
  • Gweithio mewn partneriaeth

 

Ben Ramsay

Rheolwr Ardal – Caerdydd, y Fro a Thorfaen

Mae gan Ben dros 17 flynedd o brofiad o weithio yn y sector, ac mae wedi cael gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr ym mhob agwedd ar ddigartrefedd a chymorth tai.

Mae wedi gweithio gyda phobl ar bob lefel o ddigartrefedd ar eu siwrnai allan ohono – o allgymorth digartrefedd ar y stryd neu gysgu allan, i hosteli rheng flaen a llety â chymorth, ac ymlaen i gymorth tenantiaeth yn y cartref ei hun.

Ymunodd Ben â The Wallich i ddechrau yn 2018 i reoli Gwasanaeth Allgymorth ac Atebion Caerdydd. Bu’n goruchwylio twf y gwasanaeth i’r ganolfan galw heibio wedi’i dylunio’n bwrpasol ac ehangu’r tîm a’i gylch gwaith.

Yn 2019  daeth Ben yn gyfrifol am reoli Lloches Nos Caerdydd yn ogystal â’r Gwasanaeth Allgymorth ac Atebion.

Symudodd Ben i rôl Rheolwr Ardal Caerdydd, y Fro a Gwent yn 2023. Mae’n goruchwylio portffolio amrywiol o wasanaethau mewn nifer o awdurdodau lleol sy’n cynnwys hosteli rheng flaen, llety argyfwng, defnyddio sylweddau a llety ymatal, cymorth lle bo’r angen, gweithio gyda charchardai, Tai yn Gyntaf, cymorth cysgu allan ac allgymorth dyfal, a chyngor digartrefedd a chanolfannau atal.

“Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn fwy na rhoi cartref i rywun heddiw. Mae’n ymwneud ag adeiladu’r sylfeini i’w cadw nhw’n ddiogel yfory.”

Arbenigedd

  • Caerdydd, Y Fro a Gwent
  • Digartrefedd
  • Tai yn Gyntaf
  • Ailgartrefu Cyflym
  • Anghenion cymhleth
  • Cyffuriau, alcohol a lleihau niwed
  • Allgymorth dyfal
  • Partneriaethau cynghrair
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Rheoli Tai
  • Cymorth Tenantiaeth
  • Troseddwyr Troseddol
  • Atal digartrefedd
  • Dylunio gwasanaethau a datblygu prosiectau

 

Debbie Mottley

Rheolwr Ardal – Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Debbie wedi bod gyda The Wallich ers saith mlynedd ac mae ganddi dros 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes cefnogaeth a gwasanaethau cyfiawnder troseddol.

Ymunodd Debbie â The Wallich i ddechrau fel Uwch Weithiwr Cymorth yng Ngwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot cyn symud ymlaen i fod yn Rheolwr Prosiectau yn Abertawe, lle chwaraeodd ran allweddol wrth ddatblygu Tai yn Gyntaf Abertawe.

Yn ddiweddarach daeth yn Rheolwr Ardal Abertawe, ac yn nes ymlaen, yn 2023, symudodd i ymgymryd â rôl Rheolwr Ardal ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yno, mae Debbie yn arwain ystod o wasanaethau cymorth preswyl a lle bo’r angen yn ymwneud â digartrefedd.

Cyn ymuno â The Wallich, treuliodd Debbie 23 blynedd yn gweithio ym maes cyfiawnder troseddol, gan feithrin profiad helaeth o gefnogi pobl ag anghenion cymhleth a chydweithio ag ystod eang o asiantaethau a gwasanaethau.

Mae’n angerddol ynglŷn â chynorthwyo cydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau canlyniadau cadarnhaol a chreu amgylcheddau lle gall pobl ffynnu.

Mae Debbie wedi cwblhau cymwysterau ILM Lefel 4 a Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth ac mae’n parhau’n ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Y tu allan i’r gwaith, mae gan Debbie ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth leol ac ymgysylltu â’r gymuned. Mae’n aelod gweithredol o’i chyngor lleol ac mae’n gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol.

“Mesur cymdeithas yw sut mae’n trin ei haelodau mwyaf agored i niwed.”

Arbenigedd

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Digartrefedd
  • Tai yn Gyntaf
  • Cyfiawnder troseddol
  • Rheoli tai
  • Arweinyddiaeth weithredol a gwneud penderfyniadau
  • Adeiladu perthnasoedd
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid
  • Rheoli digwyddiadau tyngedfennol
  • Rheoli pobl
  • Hyfforddi a Datblygu
  • Diogelu
  • Rheoli risg
  • Cefnogaeth i anghenion cymhleth
  • Datblygu gwasanaethau

 

Joanne Parry

Rheolwr Ardal – Gogledd-orllewin Cymru a Cheredigion

Ymunodd Jo â’r tîm fel Rheolwr Ardal yn 2026, gan oruchwylio prosiectau ym Môn, Gwynedd, Conwy a Cheredigion, gan gynnwys Tai yn Gyntaf, Ailgartrefu Cyflym, Llety â Chymorth, Cymorth pan fo’r Angen a Chymorth Preswyl.

Dechreuodd ei thaith gyda The Wallich fel Uwch Weithiwr Cymorth yn 2013 yn ein gwasanaeth Tai yn Gyntaf ar Ynys Môn – yr awdurdod cyntaf i gynnig dull Tai yn Gyntaf yng Nghymru.

Aeth Jo ymlaen i fod yn Rheolwr Gwasanaeth yn 2017, gan ychwanegu rheoli prosiect ‘cerrig camu’ – a oedd yn gweithio gyda phobl a oedd yn profi digartrefedd a hefyd yn dioddef o iechyd meddwl gwael yr un pryd – a dull ailgartrefu cyflym sy’n helpu pobl i symud i dai parhaol cyn gynted ag y bo modd.

Yn 2022, dyfarnwyd Achrediad Tai yn Gyntaf Cymru i Tai yn Gyntaf Ynys Môn gan Cymorth Cymru, rhywbeth y mae Jo a’r tîm yn falch iawn ohono, ac mae wedi cwblhau adolygiad yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod y prosiect yn parhau i ddilyn Egwyddorion Tai yn Gyntaf mor agos ag sy’n bosibl.

Mae Jo yn angerddol ynglŷn â’r gwaith rydym yn ei wneud, y canlyniadau rydym yn gobeithio eu sicrhau a’r bywydau niferus rydym yn eu gwella.

“Beth mae cartref yn ei olygu? Nid lle ydy cartref bob amser. Yn aml iawn mae’n deimlad. Mae’n deimlad o ddiogelwch a theimlad o heddwch.”

Arbenigedd

  • Digartrefedd
  • Tai yn Gyntaf
  • Ailgartrefu Cyflym
  • Lleihau Niwed
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Datblygu gwasanaeth
  • Rheoli risg
  • Cefnogi anghenion cymhleth
  • Digartrefedd ac iechyd meddwl gwael sy’n digwydd yr un pryd
  • Cymorth Cyffuriau ac Alcohol

 

Liz Evans

Rheolwr Ardal – Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

Mae Liz wedi dal nifer o rolau gyda The Wallich ledled Cymru. Ymunodd i ddechrau yn 2018 fel Uwch Weithiwr Cymorth ar gyfer gwasanaethau cymorth lle bo’r angen ym Mhowys, yn cynorthwyo pobl sydd angen help â thai a materion eraill ledled y rhanbarth.

Yna ar ôl symud i Abertawe, bu Liz yn gweithio fel Gweithiwr Tai yn Gyntaf arbenigol, gan ddarparu cymorth wedi’i gydlynu i alluogi pobl symud i eiddo newydd er mwyn cadw eu tenantiaeth.

Daeth Liz yn Rheolwr Gwasanaeth yn Derwen Newydd yn Sir Gaerfyrddin yn 2021. Mae’r gwasanaeth arloesol yn dangos y ffordd i’r sector yng nghyswllt lleihau niwed a gwasanaethau preswyl sy’n seiliedig ar ymatal, gan weithio mewn partneriaeth â byrddau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i helpu adferiad.

Mae Liz wedi bod yn Rheolwr Ardal er 2024 ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro. Mae ei gwasanaethau’n cynnwys allgymorth cysgu allan, prosiectau adfer, celcio cyfannol, cymorth lle bo’r angen ac atal digartrefedd.

“Mae ein rôl yn angenrheidiol oherwydd yr heriau mae pobl eraill yn eu hwynebu. Dylai cydnabod hyn ein helpu i gadw ein traed ar y ddaear, i deimlo’n ddiolchgar a bod yn wylaidd yn ein gwasanaeth.”

Arbenigedd

  • Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro
  • Digartrefedd
  • Cymorth sy’n ystyriol o drawma
  • Cymorth cyffuriau ac alcohol
  • Lleihau niwed
  • Adferiad
  • Tai yn Gyntaf
  • Anghenion cymhleth
  • Defnyddio sylweddau, iechyd meddwl gwael a digartrefedd sy’n digwydd yr un pryd
  • Datrys gwrthdaro
  • Gwasanaethau pobl ifanc
  • Cymorth tenantiaeth
  • Iechyd meddwl a llesiant
  • Allgymorth
  • Adeiladu perthnasoedd
  • Gweithio mewn partneriaeth

 

Mark Winston

Rheolwr Ardal – Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot

Mae Mark wedi bod yn cael ei gyflogi gan The Wallich ers 14 blynedd, ar ôl dechrau ei yrfa fel Gweithiwr Prosiect yn Gorwelion, gwasanaeth preswyl yn seiliedig ar ymatal yn Abertawe.

Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi dal nifer o rolau, gan gynnwys Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol a Rheolwr Gwasanaeth, cyn derbyn ei swydd bresennol fel Rheolwr Ardal ar y cyd ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Cyn ymuno â The Wallich, bu Mark yn gweithio fel Swyddog Carchar am 15 mlynedd, gan ddatblygu profiad gwerthfawr yn y sector cyfiawnder troseddol.

Yn ystod ei gyfnod gyda The Wallich, mae Mark wedi datblygu set sgiliau eang a chynhwysfawr, gan gynnwys rheoli tai, cyfweld ysgogiadol, ymarfer sy’n ystyriol o drawma, ac adeiladu a chynnal dulliau gweithio mewn partneriaeth effeithiol.

Yn ei rôl bresennol fel Rheolwr Ardal, mae’n gyfrifol am sicrhau bod darparu gwasanaeth gweithredol yn ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cyrraedd y safonau uchel a osodwyd gan y sefydliad.

Mae ei gylch gwaith yn cynnwys gwasanaethau yn y rhanbarth, gan gynnwys tai dros dro a llety â chymorth, yn ogystal ag atal digartrefedd a gwasanaethau llesiant.

“Mae pawb yn haeddu lle i’w alw’n gartref.”

Arbenigedd

  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • Digartrefedd
  • Cyfiawnder troseddol
  • Gweithio mewn partneriaeth
  • Rheoli tai
  • Defnyddio sylweddau a lleihau niwed
  • Adferiad
  • Atal digartrefedd
  • Dylunio gwasanaethau a datblygu prosiectau

 

David Bennett

Pennaeth Gwasanaeth Arloesi a Gwella

Ymunodd David â The Wallich i ddechrau yn 2017 fel rhan o’n Prosiect BOSS arloesol, a oedd yn helpu pobl â chefndiroedd troseddu i oresgyn rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag cael gwaith.

Erbyn hyn mae David yn goruchwylio portffolio amrywiol o brosiectau cyffrous sy’n helpu’r sefydliad i gyflawni ei drydedd nod cenhadaeth: ‘Creu cyfleoedd i bobl’.

Yn ystod ei gyfnod, mae David wedi arwain rhai o’n prosiectau mwyaf arloesol, gan gynnwys rhaglenni cyflogadwyedd megis WISE a Chamau at Gynnydd, Dinasoedd Anweledig Caerdydd, Prosiect y Stori a BOOST Gwent.

Mae prosiectau Arloesi Gwasanaeth The Wallich yn arwain y sector wrth gynorthwyo unigolion i gael mynediad at gyfleoedd eithriadol, a chyfranogi yn y celfyddydau, treftadaeth a diwylliant.

Mae David yn angerddol iawn ynglŷn â sicrhau bod pobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd yn teimlo bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac yn chwarae rhan wrth ddylunio a darparu gwasanaethau digartrefedd – ac mae cydgynhyrchu a Bwrdd Cysgodol The Wallich wrth graidd hyn.

“Rwy’n credu o ddifri mai cydweithio fel partneriaid cyfartal gyda phobl sy’n profi digartrefedd yw’r unig ffordd o greu newid hirdymor, a llwybrau cynaliadwy, a chyflawni ein nod o Wneud Digartrefedd yn Hanes.”

Arbenigedd

  • Digartrefedd
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Cydgynhyrchu a llais profiad personol
  • Datblygu prosiectau a dylunio gwasanaethau
  • Celfyddydau creadigol, chwaraeon a gweithgareddau i ddifyrru
  • Llesiant
  • Dysgu oedolion a sgiliau
  • Cyflogadwyedd
  • Y system cyfiawnder troseddol

 

Jason Nancurvis

Pennaeth Gweithrediadau Symudol

Mae Jason wedi bod yn gweithio gyda The Wallich ers bron i 10 mlynedd ac mae ganddo brofiad eang mewn gwasanaethau digartrefedd symudol a rheoli fflyd gerbydau.

Fel Pennaeth Gweithrediadau Symudol mae’n goruchwylio fflyd gerbydau’r sefydliad, gan sicrhau bod cerbydau’n ddiogel, yn cydymffurfio ac yn barod i gefnogi pobl lle bynnag mae eu hangen.

Mae rhan allweddol o waith Jason yn cynnwys arwain ar gerbydau arbenigol megis DYLIS, cerbyd The Wallich ar gyfer lleihau niwed ac iechyd.

Mae DYLIS yn darparu gwasanaeth allgymorth hanfodol i gymunedau ledled Cymru, gan helpu i ddarparu ymyriadau iechyd hygyrch – gan gynnwys profion, brechiadau a gofal anafiadau – a gwasanaethau cymorth digartrefedd; gan fynd â nhw yn syth at y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae Jason yn chwarae rôl ganolog wrth sicrhau bod fflyd gerbydau The Wallich yn hygyrch ac yn addas i’w pwrpas er mwyn cyflawni heriau gweithio gyda phobl ar y stryd ac yn y gymuned.

Mae’n hanfodol yng ngwaith Jason bod partneriaethau allweddol yn cael eu ffurfio â byrddau iechyd Cymru, cynghorau a sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddigartrefedd.

Mae’n dod â dull ymarferol ac angerdd gwirioneddol dros gadw gwasanaethau cymorth symudol yn symud ac yn gweithio’n effeithiol.

“Rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod yr olwynion yn dal i droi, fel bod cymorth yn gallu cyrraedd pob cymuned – lle bynnag maen nhw.”

Arbenigedd

  • Darparu gwasanaethau digartrefedd symudol
  • Allgymorth lleihau niwed cyffuriau ac alcohol
  • Cynhwysiant ym maes iechyd
  • Gwasanaethau ymgysylltu symudol sy’n canolbwyntio ar y gymuned
  • Rheoli fflyd gerbydau ledled Cymru
  • Rheoli cronfa ddata gyrwyr
  • Cydymffurfiad
  • Yswiriant fflyd
  • Adrodd am y fflyd a goruchwyliaeth weithredol
  • Systemau adrodd am ddiffygion cerbydau a’u datrys
  • Cynnal a chadw cerbydau o ddechrau’r broses i’r diwedd a rheoli eu cylch bywyd
  • Dylunio ac addasu cerbydau arbenigol
  • Adeiladu perthnasoedd
  • Gweithio mewn partneriaeth