Stori David, ein gwirfoddolwr

08 Jul 2025

Ar ôl cyfnod o boeni am ei iechyd a chymryd seibiant o’r gwaith, fe ddechreuodd David wirfoddoli gyda The Wallich yn Abertawe er mwyn magu hyder a chael ymdeimlad o bwrpas unwaith eto.

Fe lwyddodd David i gyflawni rhywbeth arbennig gyda gwirfoddolwyr eraill o ganlyniad i’w gariad at arddio a’i allu i addasu i amgylchiadau newydd.

Dyn gwirfoddolwr â barf yn gwisgo cap, gydag offeryn garddio dros ei ysgwydd

DARLLENWCH EI STORI

“Rwy’n 46. Roeddwn i wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir cyn dechrau gwirfoddoli gyda The Wallich – roeddwn i wedi cymryd seibiant gwirfoddol o’r gwaith er mwyn cael cyfle i wella fy iechyd meddyliol a chorfforol ar ôl cyfnod o boeni bod canser arnaf.

Roeddwn i wedi colli fy hyder, ac rwy’n credu bod peidio â chael strwythur pendant a cholli’r gwmnïaeth a geir yn y gweithle yn rhannol gyfrifol am hynny.”

CYFLE I WIRFODDOLI

“Mae helpu pobl lai ffodus mewn cymdeithas wedi bod yn bwysig i mi erioed, ac yn ddiweddar rwyf i wedi datblygu diddordeb mawr mewn garddio.  Gwelais hysbyseb yn chwilio am wirfoddolwyr i gynorthwyo gyda phrosiect garddio, a meddyliais yn syth ei fod yn gyfle perffaith i mi.

Mae’r gwaith gwirfoddoli mewn maes cwbl wahanol i’r un roeddwn i’n arfer gweithio ynddo (rheoleiddio ac ymgynghoriaeth amgylcheddol), ond pan fo gen i ddiddordeb mewn pwnc rwy’n addasu er mwyn sicrhau fy mod yn llwyddo.

Rwyf i wedi dysgu sawl peth wrth wirfoddoli, ac roedd y gwaith yn gweddu’n dda i mi.”

BRECWAST A DRYSLWYN

“Roedd safle’r prosiect yn berffaith, dryslwyn a danad poethion wedi gordyfu, ac roedd potensial amlwg i’r lle.

Cefais groeso cynnes ac roeddwn i’n cael fy ngwerthfawrogi o’r cychwyn cyntaf. Roedd criw gwych o wirfoddolwyr gweithgar yn gweithio ar y prosiect, ac roeddem ni i gyd yn teimlo ein bod yn cyfrannu at rywbeth arbennig. Fi oedd yn gyfrifol am reoli’r prosiect, sy’n gyfrifoldeb mawr, ond rwy’n falch iawn o’r hyn wnaethom ni ei gyflawni.

Cefais gyfle hefyd i wirfoddoli gyda’r Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd – roedd fy nghyfrifoldebau yn cynnwys rhoi help llaw i’r tîm amser brecwast drwy fynd â bwyd a diod i bobl sy’n profi digartrefedd ar y stryd.

Roeddwn i hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod  digon o ddarpariaethau yn hostel Dinas Fechan The Wallich ddigon o ddarpariaethau, ac yn cynorthwyo gyda gwaith cynnal a chadw’r hostel drwy lanhau’r gwlâu a’r cabannau argyfwng.”

Gardd gyda choeden a ffens yn y cefndir, a chennin Pedr o'i blaen gydag addurn goleudy gwydr

UCHAFBWYNTIAU

“Fe wnes i fwynhau pob eiliad yn gwirfoddoli. Roedd yn ffordd berffaith o ddychwelyd i’r gweithle.

Roedd treulio diwrnod neu ddau yn gwirfoddoli bob wythnos yn rhoi strwythur a phwrpas i mi, a dyna’n union beth roeddwn ni ei angen.

Ond os oes rhaid i mi ddewis, mae’n debyg mai’r uchafbwynt i mi oedd cael cwrdd a sgwrsio â’r holl bobl sy’n gysylltiedig â The Wallich – staff a defnyddwyr y gwasanaeth.  Er bod angen i mi neilltuo digon o amser i ymlacio, rwyf i wrth fy modd yng nghanol pobl. Rwyf i wir yn argymell gwirfoddoli gyda The Wallich.”

CANLYNIAD ANNISGWYL

“Roedd gwirfoddoli yn ddewis perffaith i fi. Ac er nad dyna oedd fy mwriad gwreiddiol, penderfynais yn ystod fy nghyfnod fel gwirfoddolwr y byddai gweithio i The Wallich yn gyfle rhy dda i’w wrthod.

A dyna ddigwyddodd, yn fuan iawn wedyn, cefais swydd llawn amser.”

Ydych chi eisiau gwirfoddoli gyda gwasanaethau digartrefedd The Wallich?

Edrychwch ar ein tudalen wirfoddoli i gael cip ar y swyddi gwag sydd ar gael i wirfoddolwyr.