Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd (RSIT) Abertawe

Strand, Abertawe, SA1 2AW

Abertawe

01792 488 990

Mae Tîm Ymyrraeth Cysgu ar y Stryd Abertawe yn darparu gwasanaeth allgymorth i bobl ddigartref sy’n byw ar y stryd yng nghanol y ddinas

Mae’r tîm yn darparu nwyddau, cefnogaeth a chyngor i bobl sy’n cysgu allan neu sydd mewn llety lle maent yn agored i niwed yn ardal Abertawe.

Mae staff profiadol yn cefnogi cleientiaid drwy

  • Ddarparu brecwast
  • Diodydd poeth
  • Sachau cysgu
  • Dillad cynnes
  • Pethau ymolchi
  • Help i ddod o hyd i ddarpariaeth leol arall drwy’r dydd a gyda’r nos

Rydym hefyd yn helpu i ddiwallu anghenion cyfredol drwy gynnig cyngor ar faterion amrywiol a thrwy hwyluso mynediad at y gwasanaethau mwyaf priodol, perthnasol ac arbenigol yn aml.

Bydd hyn yn cynnwys

  • Cyngor ar dai
  • Atgyfeirio at lety â chymorth
  • Cyngor am fudd-daliadau
  • Atgyfeirio at ofal iechyd o bob math ac atgyfeirio at ganolfannau camddefnyddio sylweddau

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu i ofyn am wybodaeth am atgyfeirio, cysylltwch â ni.