Mae wythnos gyntaf Mehefin yn nodi Wythnos y Gwirfoddolwyr. Fel dathliad blynyddol o wirfoddolwyr, mae’n rhoi cyfle i fudiadau bach a mawr gydnabod cyfraniad gwirfoddolwyr i’n cymunedau.
Y thema ar gyfer Wythnos y Gwirfoddolwyr 2021 yw, amser i ddweud diolch.
Nid yw’n gyfrinach bod gwirfoddoli yn The Wallich wedi cael ei effeithio gan COVID-19 ymysg llawer o bethau eraill.
O sicrhau bod gan ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth fynediad at y rhyngrwyd, cadw 24 o wasanaethau hanfodol ar waith a pharhau i ddarparu allgymorth i bobl sy’n cysgu allan yn ystod cyfnod prysuraf y pandemig, roedd yn rhaid i The Wallich addasu.
Mae ein gwirfoddolwyr wedi helpu mewn cymaint o ffyrdd drwy gydol y pandemig hwn, gydag amynedd, penderfyniad a brwdfrydedd cyson.
Mae gwirfoddolwyr ledled Cymru wedi ein helpu i ddarparu bwyd i brosiectau, darparu sesiynau hyfforddi rhithiol ac, mewn rhai achosion, mae gwirfoddolwyr wedi gallu dychwelyd i’w rolau gwreiddiol, gyda phrotocolau cadw pellter cymdeithasol a digon o gyfarpar diogelu personol.
Mae llawer o’n prosiectau’n dal i fethu â derbyn gwirfoddolwyr yn ddiogel. Mae ein nodau COVID a nodwyd yn gynnar yn y pandemig yn cynnwys cadw pawb yn ddiogel rhag dal yr afiechyd, ac mae hynny’n cynnwys gwirfoddolwyr.
Fodd bynnag, rydym yn dechrau gweld cynnydd yn raddol yn nifer y prosiectau sy’n paratoi i gyflogi gwirfoddolwyr newydd dros y misoedd nesaf.
Mae sawl ffordd y gall gwirfoddolwr gael effaith gadarnhaol o fewn un o’n prosiectau neu’r gymuned ehangach yn gyffredinol.
Mae gwirfoddoli’n dda ar gyfer iechyd meddwl ein cleientiaid, ein staff a’r unigolyn sy’n gwirfoddoli – mae cael rhywun arall i gysylltu â nhw yn helpu i rannu pryderon y cyfnod rydyn ni’n byw drwyddo.
Wrth iddyn nhw roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned, mae gwirfoddolwyr yn gwneud gwahaniaeth i’r bobl o’u cwmpas ac yn ennill neu’n adeiladu ar sgiliau cyfredol yn y broses.
Drwy gymryd gwirfoddolwyr, dyma’r ffyrdd maen nhw’n cael effaith gadarnhaol ar ein gwasanaethau:
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli gyda ni yn ystod y flwyddyn anodd hon.
P’un a ydych wedi gwirfoddoli gyda ni unwaith, neu’n gwirfoddoli’n rheolaidd, nid yw wedi bod yn hawdd, ond rwyf yn cymryd cysur o’r ffaith ein bod wedi gallu hwyluso rhai cyfleoedd i bobl sydd am roi’n ôl.
Hoffwn hefyd ddiolch i’n staff mewn prosiectau ledled Cymru sydd wedi croesawu a chofleidio gwirfoddolwyr â breichiau agored (yn drosiadol, nid yn llythrennol eleni yn anffodus).
Yn The Wallich, rydyn ni’n credu bod gwirfoddoli’n gweithio’r ddwy ffordd – dylai defnyddwyr gwasanaeth The Wallich a’n gwirfoddolwyr elwa o’r lleoliad.
Ein huchelgais bob amser fydd gwneud yn siŵr bod unrhyw un sy’n rhoi o’u hamser yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu deall a’u bod yn falch o fod yn rhan o The Wallich.
Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i ddarparu cyfleoedd yn ein cymunedau i helpu i fynd i’r afael â digartrefedd.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr? Dewch i wybod mwy