Gwerthusiad Annibynnol: Prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy

01 Mar 2022
textimgblock-img

Mae’r prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy (WISE) wedi cael ei werthuso’n annibynnol gan Hannah Woods Consultancy, i asesu ei berfformiad presennol, ac i ystyried sut dylai’r rhaglen ddatblygu yn y dyfodol.

Yn 2021, cymerodd 88 o unigolion ran yn WISE

  • Dywedodd 80% eu bod wedi gwella eu perthynas ag eraill
  • Dywedodd 78% eu bod wedi gwella eu sgiliau personol a chymdeithasol
  • Dywedodd 77% eu bod yn teimlo’n fwy hyderus am eu dyfodol

Fel rhan o’r gwerthusiad, bu staff a defnyddwyr gwasanaeth o bob rhan o WISE yn gweithio gyda Hannah i gytuno ar saith argymhelliad ynghylch sut gall y prosiect ddatblygu ymhellach ac adeiladu ar ei lwyddiannau hyd yn hyn.

Cewch ragor o wybodaeth am ddyfodol WISE, a chyfle i ddarllen geirdaon gan bobl sydd wedi elwa ar y rhaglen, yn y crynodeb hwn o’r gwerthusiad.

Darllenwch Grynodeb yr Adroddiad

Mae’r Gwerthusiad llawn o’r Prosiect Gweithio mewn Cyflogaeth Gynaliadwy gan Hannah Woods a Mark Richardson ar gael i’w ddarllen yn awr.

Tudalennau cysylltiedig