
Mae Rhaglen Mentora Cymheiriaid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cymorth un-i-un i unigolion sy’n ddibynnol ar sylweddau gan fentor sydd â phrofiad bywyd.
Mae’r rhaglen wedi cael ei phrofi mewn rhai safleoedd Canolfan Byd Gwaith (JCP) yng Nghymru a Lloegr a’i chyflwyno gan 4 darparwr:
Bu prosiect peilot gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Gogledd Cymru The Wallich yn gweithio gyda phobl yn Wrecsam, y Rhyl a Shotton.
Roedd adolygiadau annibynnol y Fonesig Carol Black i effaith canlyniadau cyflogaeth ar ddibyniaeth i gyffuriau ac alcohol (adroddiadau o 2016 a 2021) yn tynnu sylw at y ffaith bod gweithgarwch ystyrlon fel cyflogaeth, ochr yn ochr â thriniaeth, yn gwneud cyfraniad pwysig at gynnal adferiad ar ôl dibyniaeth ar sylweddau.
Fodd bynnag, yn aml mae gan unigolion sy’n ddibynnol ar sylweddau anghenion cymhleth ac mae angen ymyrraeth arbenigol arnynt i oresgyn rhwystrau rhag adferiad a chyflogaeth.
Mae’r Rhaglen Mentora Cymheiriaid yn cynnig cymorth un-i-un gan fentor sydd â phrofiad uniongyrchol o ddibyniaeth ar sylweddau i unigolion sy’n ddibynnol er mwyn eu helpu i oresgyn rhwystrau a gwneud cynnydd.
Gall cynnydd olygu gwahanol bethau i wahanol unigolion sy’n ddibynnol, er enghraifft o ran gwella ar ôl dibyniaeth, iechyd, lles neu’r byd gwaith. Cyfeirir at y rhain fel ‘canlyniadau’ yn yr adroddiad hwn.