Ein tystiolaeth i ymchwiliad Llywodraeth Cymru i ddigonoldeb tai a rhenti teg

15 Sep 2023

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwiliad i ddigonoldeb tai a rhenti teg yng Nghymru

The Wallich conflict resolution worker with client sharing a cup of tea in Wrexham - The Wallich homeless

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur gwyrdd, yn ymgynghori ar gyfleoedd i wella digonoldeb llety rhent, yn ogystal ag ymyriadau posibl i ddarparu rhenti teg mewn marchnad sydd wedi gweld cynnydd cyflym ers 2020. 

Lansiwyd yr ymchwiliad yng nghyd-destun ddigonoldeb tai a rhenti teg rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, yn ogystal ag ymgyrch hirsefydlog i wreiddio’r Hawl i Dai Digonol yng nghyfraith Cymru. 

Roedd y papur gwyrdd yn gofyn 22 o gwestiynau am yr egwyddorion a’r camau ymarferol y gellid eu cymryd i symud yr agenda hon yn ei blaen. 

Fel elusen digartrefedd fwyaf Cymru, fe wnaethom ni yn The Wallich rannu ein safbwyntiau â’r Llywodraeth ynghylch y newidiadau cadarnhaol y gellid eu gwneud, yn ogystal ag unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl. 



                
                                            

Tudalennau cysylltiedig