Mesurau digartrefedd dros dro ar ôl y pandemig Llywodraeth Cymru

Ein hymateb

05 Jul 2022

Ymateb The Wallich i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ei mesurau digartrefedd dros dro ar ôl y pandemig yw hwn.

Fe wnaethant ofyn am safbwyntiau am y newidiadau i’r ddarpariaeth digartrefedd i sicrhau na chaiff neb eu gadael i gysgu allan yng Nghymru.

Diben penodol yr ymgynghoriad hwn oedd casglu safbwyntiau ar dri gorchymyn statudol dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014:

  • Gorchymyn Digartrefedd (Angen Blaenoriaethol) (Cymru) 2022 – sy’n ceisio barn ar y cynigion i ychwanegu ‘Person sy’n cysgu allan’ fel 11eg categori o Angen Blaenoriaethol dan Adran 70 o’r Ddeddf;
  • Rheoliad Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2022 – sy’n ceisio barn am y diwygiad canlyniadol i Reoliadau Digartrefedd (Bwriadoldeb) (Categorïau Penodedig) (Cymru) 2015 i gynnwys ‘Cysgu Allan’ fel yr 11eg categori; a
  • Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) (Diwygio) 2022 – sy’n ceisio barn am ddau newid:
    • Ychwanegu is-gategori i Erthygl 6 o Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 lle bo gallu Awdurdod i ddarparu llety wedi’i gyfyngu o ganlyniad i bwysau oddi wrth Covid-19, yn ddarostyngedig i gyfyngiad amser o 31 Mawrth 2023; a
    • Cynnwys yn benodol argyfyngau iechyd cyhoeddus yn y rhestr o ddigwyddiadau argyfwng dan Erthygl 6a.
textimgblock-img

Cafodd y tîm Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus drafodaethau defnyddiol â staff ar draws y sefydliad, ac o ganlyniad rydym wedi cyflwyno ein hadborth i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, ac edrychwn ymlaen i glywed rhagor o fanylion yn fuan.

Darllenwch ein hymateb