Plant a phobl ifanc yn cynnau’r fflam dros newid cymdeithasol

09 Oct 2020

Mae tîm codi arian y Wallich yn cydweithio’n glos ag ysgolion ledled Cymru ac mae’n rhyfeddu at drugaredd plant a phobl ifanc oedran ysgol tuag at bobl eraill.

Fel elusen, rydym yn cael llawer o roddion hael o bob math o ffynonellau. Rydym yn cael cyfraniadau wrth inni gael ein dewis fel Elusen y Flwyddyn gan sefydliadau ar hyd a lled Cymru, neu drwy ymdrechion codi arian mewn cymunedau lleol.

Mae pob rhodd yn ein helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd, am byth.

Dyma Siân Kinsey. Swyddog Codi Arian gyda’r Wallich, i egluro:

“Mae’r Wallich yn cydweithio ag ysgolion cynradd ac uwchradd, yn ogystal â cholegau, ym mhob rhan o Gymru, ac mae’n darparu gweithgareddau ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm yn ddi-dâl  sydd â’r nod o addysgu plant am realiti digartrefedd ac i’w hysbrydoli i frwydro dros newid.

Mae ein cynllun yn rhoi pwyslais ar annog dysgwyr i ddangos empathi, trugaredd a pharch tuag at bobl sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd llai ffodus na hwy. Mae hyn yn dechrau mewn addysg ac mewn ysgolion cynradd.

Drwy addysgu plant a phobl ifanc am ddigartrefedd, mi allwn wneud yn siŵr bod pawb yn gwneud eu rhan i wneud gwahaniaeth i helpu’r mwyaf anghenus yn ein cymdeithas.”

Arwain drwy esiampl

Drwy gydol y pandemig Coronafeirws, mae cymunedau ledled Cymru wedi parhau i ddod at ei gilydd i ddangos cefnogaeth i bobl sy’n profi digartrefedd.

Mae Angelica yn 12 oed ac mae hi’n dod o Gasnewydd. Mi dreuliodd gwyliau’r haf yn gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â digartrefedd.

Bu Angelica yn rhannu ei phrofiadau â’r Wallich.

Pam wnes ti ddewis codi arian i’r Wallich a gwneud rhywbeth ynghylch digartrefedd?

Yn ystod gwyliau’r haf i ffwrdd o’r ysgol, mi wnes i ddilyn cwrs ar-lein pythefnos o hyd ar arweinyddiaeth. Drwy gydol y cwrs roeddem yn cael heriau i’w cwblhau.

Un o’r heriau hyn oedd codi arian i elusen leol o fy newis. Mi benderfynais gefnogi elusen ddigartrefedd yn lleol ac arweiniodd fy ymchwil fi at y Wallich a’u negeseuon bod cywilydd cymdeithasol anhaeddiannol yn deillio o ddigartrefedd.

Cefais wedyn fy ysbrydoli i godi ymwybyddiaeth o’r myth hwn. Hefyd, mae helpu pobl eraill yn gwneud imi deimlo’n hapus yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

textimgblock-img

Pa beth anhygoel wnes ti, a faint wnes ti godi?

“Mi es ati i wneud tua 140 o gylchau allweddi a magnetau a’u gwerthu ar y llwybr o flaen y tŷ am £1 yr un. Mi wnes i lwyddo i godi cyfanswm o £244, gan fod pobl wedi rhoi mwy o arian na’r disgwyl a bod hynny wedi cynyddu’r cyfanswm.”

Beth wnes ti ddysgu wrth wneud hyn?

“Rwyf wedi dysgu bod modd helpu pobl eraill mewn llawer o ffyrdd gwahanol.

Mae wedi dangos imi ei bod yn bwysig cofio am yr holl bobl hynny sydd heb bethau hanfodol bywyd, fel to uwch eu pennau a lloches.

Mae wedi gwneud imi werthfawrogi popeth sydd gen i.

Yn olaf, rwyf wedi dod i ddysgu nad oes dim byd sy’n well na rhoi gwên ar wyneb rhywun neu helpu rhywun sydd mewn angen.”

Beth fyddet ti’n ddweud wrth rywun sy’n ystyried codi arian i’r Wallich?

“Mi fuaswn yn annog eraill i gefnogi’r Wallich ac elusennau digartrefedd lleol. Maent yn gwneud gwahaniaeth mawr yn y gymuned leol ac mi all unrhyw arian a godir fynd ymhell. Er enghraifft, gall cyn lleied ag £20 helpu i gadw pobl yn ddiogel ac arafu ymlediad COVID-19.1.

Mae hyn oherwydd bydd rhywun a oedd yn arfer cysgu allan ac sy’n awr mewn llety dros dro yn cael pryd bwyd poeth, maethlon bob dydd am wythnos.

Yn dilyn fy rhodd i’r Wallich, mi oeddwn yn hapus fy mod yn helpu pobl mewn angen. Mae hi’n elusen sy’n werth ei helpu, a bydd yn newid bywyd rhywun.”

Os yw Angelica wedi eich ysbrydoli chi i wneud rhywbeth ynghylch digartrefedd, dysgwch ragor am yr hyn y gallwch wneud yn eich cymuned chi

Tudalennau cysylltiedig