Castell-nedd Port Talbot
nptpaws@thewallich.net
01639 642 202
Mae Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth sy’n gysylltiedig â thai.
Mae PAWS yn cynnig gwasanaethau llety personol – ni waeth faint yw oed yr unigolyn, y math o denantiaeth na’r lleoliad yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae ein gwasanaeth yn darparu mynediad i gymorth iechyd a llesiant a mynediad i gyfleoedd i gael hyfforddiant, addysg ac i wneud gwaith gwirfoddol.
Mae’r Uwch Weithwyr Cymorth yn PAWS yn canolbwyntio ar yr atebion er mwyn i bobl allu byw yn annibynnol ac yn gynaliadwy.
Os hoffech wybod rhagor am y gwasanaeth neu os hoffech drefnu apwyntiad, cysylltwch â:
SWYDDFA PROSIECT PAWS
49 Talbot Road
Port Talbot
SA13 1HN
Ffôn: 01639 642 202
e-bost: nptpaws@thewallich.net
Oriau Swyddfa: Llun – Gwener, 9am – 5pm.
Mae tîm ymroddedig The Wallich yng Ngwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot yn helpu pobl yn y gymuned sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu sy’n wynebu sefyllfa dai ansicr.
Mae ein tîm o arbenigwyr ystyriol o drawma yn gweithio’n agos â Dewisiadau Tai Cyngor Castell-nedd Port Talbot, WCADA, Platfform, Byddin yr Iachawdwriaeth a mwy i helpu pobl i gael y cyfleoedd gorau sydd ar gael, er mwyn gwella ansawdd eu bywyd.
Mae gwasanaeth galw mewn The Wallich ar ddydd Iau yng Ngwesty’r Ambassador yng Nghastell-nedd yn rhoi cefnogaeth, cyngor a gwasanaeth cyfeirio un wrth un, ar gyfer cael help gyda phethau fel tai, delio ag arian, iechyd meddwl a chorfforol, llesiant a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
Rydym hefyd yn hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau perthnasol eraill megis cwnsela neu fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau.
Rydym wir yn credu bod y gymuned yn elwa pan fydd yr holl wasanaethau’n ymgorffori dull #CastellNeddGyda’iGilydd, yn cydweithio i gefnogi pobl a defnyddio pob adnodd sydd ar gael yn yr ardal.