Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot
49 Talbot Road, Port Talbot SA13 1HN
Castell-nedd Port Talbot
nptpaws@thewallich.net
01639 642 202
Cymorth â llety, materion ariannol, problemau iechyd a rhagor
Mae Gwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot ar gael i unrhyw un sydd angen cymorth sy’n gysylltiedig â thai.
Mae PAWS yn cynnig gwasanaethau llety personol – ni waeth faint yw oed yr unigolyn, y math o denantiaeth na’r lleoliad yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae ein gwasanaeth yn darparu mynediad i gymorth iechyd a llesiant a mynediad i gyfleoedd i gael hyfforddiant, addysg ac i wneud gwaith gwirfoddol.
Mae’r Uwch Weithwyr Cymorth yn PAWS yn canolbwyntio ar yr atebion er mwyn i bobl allu byw yn annibynnol ac yn gynaliadwy.
Gallwn gynnig cymorth â’r canlynol:
- Delio â thenantiaeth
- Dod o hyd i lety rhent preifat
- Arian a thrin arian
- Camddefnyddio sylweddau neu alcohol
- Pryderon iechyd meddwl neu gorfforol
- Hyfforddiant, addysg neu waith gwirfoddol
- Rydyn ni hefyd yn cynnig gwasanaeth datrys gwrthdaro arbenigol i rai sydd mewn anghydfod ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gyda’u teulu neu’u landlord ac sydd angen ymyrraeth gyfryngu
Ymweld â PAWS
Os hoffech wybod rhagor am y gwasanaeth neu os hoffech drefnu apwyntiad, cysylltwch â:
SWYDDFA
The Wallich
49 Talbot Road
Port Talbot
SA13 1HN
Ffôn: 01639 642 202
e-bost: nptpaws@thewallich.net
Oriau Swyddfa: Llun – Gwener, 9am – 5pm.
Castell-nedd Gyda’n Gilydd
Mae tîm ymroddedig The Wallich yng Ngwasanaeth Atal a Llesiant (PAWS) Castell-nedd Port Talbot yn helpu pobl yn y gymuned sydd mewn perygl o ddigartrefedd neu sy’n wynebu sefyllfa dai ansicr.
Mae ein tîm o arbenigwyr ystyriol o drawma yn gweithio’n agos â Dewisiadau Tai Cyngor Castell-nedd Port Talbot, WCADA, Platfform, Byddin yr Iachawdwriaeth a mwy i helpu pobl i gael y cyfleoedd gorau sydd ar gael, er mwyn gwella ansawdd eu bywyd.
Rydym hefyd yn hwyluso atgyfeiriadau at wasanaethau perthnasol eraill megis cwnsela neu fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau.
Rydym wir yn credu bod y gymuned yn elwa pan fydd yr holl wasanaethau’n ymgorffori dull #CastellNeddGyda’iGilydd, yn cydweithio i gefnogi pobl a defnyddio pob adnodd sydd ar gael yn yr ardal.
