Tŷ Raena

49 Talbot Road Port Talbot SA13 1HN

Castell-nedd Port Talbot

01639 642202

Mae Tŷ Raena The Wallich yn cynnig llety â chymorth i bobl ym Mhort Talbot

Mae cymorth wedi’i deilwra gan staff profiadol ar gael gyda’r 12 fflat stiwdio Tŷ Raena sydd wedi’u dodrefnu’n llawn.

Rydyn ni’n cynnig amgylchedd sy’n ystyriol o gyflyrau seicolegol (PIE), lle rydyn ni’n paratoi pobl i symud yn gadarnhaol i’w cartrefi newydd eu hunain.

Mae ein staff sy’n deall trawma yn helpu pobl i feithrin eu sgiliau, eu hyder a’u gallu i fyw’n annibynnol.

textimgblock-img

Mae Tŷ Raena yn agos at ganol tref Port Talbot. Gyda thrafnidiaeth ac amwynderau lleol o fewn pellter cerdded, gall ein trigolion gysylltu’n hawdd â’u cymuned.

Yn ogystal â thai a chymorth 24 awr, gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau lles, cyfleoedd gwirfoddoli a chyrsiau gwahanol.

Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i arwain cyrsiau lle gallan nhw rannu eu sgiliau a’u profiadau ag eraill.

Beth i’w ddisgwyl

Dylid anfon atgyfeiriadau’n uniongyrchol i spgateway@npt.gov.uk

Barn ein cleientiaid

Dyma oedd gan un o’n trigolion cyntaf i’w ddweud am ei noson gyntaf yn Nhŷ Raena:

“Fe wnes i gau’r drws, cael cawod yn fy ystafell ymolchi fy hun, gorwedd ar y gwely a syrthio i gysgu yn gwylio’r teledu.

Cefais y noson orau o gwsg erioed.”

Yn The Wallich, rydyn ni’n gweithio gydag asiantaethau ychwanegol i ddarparu cymorth arbenigol sydd wedi’i deilwra i anghenion yr unigolyn.

Rydyn ni’n sefydliad tosturiol sy’n benderfynol o newid bywydau er gwell.

Tudalennau cysylltiedig