Dewch i fod yn Gyfaill Gwirfoddol

Castell-nedd Port Talbot

07918604793

Helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd a theimlo’n ynysig yng Nghastell-nedd Port Talbot

Beth am fod yn Gyfaill Gwirfoddol a rhoi o’ch amser, a gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.

Pam fod Cyfeillio yn bwysig?

Mae unigrwydd a theimlo’n ynysig yn cael effaith enfawr ar iechyd corfforol a meddyliol llawer o bobl sy’n byw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Mae The Wallich yn cefnogi pobl sy’n cysgu allan ac yn rhoi llety iddyn nhw. Fodd bynnag, rydyn ni’n gweld mwy o bobl angen help gyda materion eraill yn ymwneud â llesiant yn eu cartrefi eu hunain.

Mae Cyfeillion Gwirfoddol yn cynnig cymorth ychwanegol i ddefnyddwyr ein gwasanaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot, gan eu helpu i deimlo mwy o gysylltiad â’u cymuned ac yn llai ynysig.

Mae Cyfeillion Gwirfoddol yno i ganmol staff cymorth The Wallich, nid eu disodli, ac maen nhw yno i ddarparu cwmnïaeth.

Beth mae Cyfaill Gwirfoddol yn ei wneud?

Fel Cyfaill Gwirfoddol, byddwch yn:

Yr hyfforddiant a’r cymorth y byddwch yn ei gael:

Manteision dod yn Gyfaill Gwirfoddol

Rydyn ni’n cymryd barn ein Cyfeillion Gwirfoddol a’n defnyddwyr gwasanaeth o ddifrif, felly os nad ydych chi’n teimlo bod y rôl yn addas i chi, gallwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pawb yn gyfforddus.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Gyfaill Gwirfoddol?

Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi. I wneud cais neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Cydlynydd Cyfeillio Gwirfoddol – Debbie.Allison@thewallich.net

Ariennir gan Grant Cymorth Tai Castell-nedd Port Talbot

Tudalennau cysylltiedig