Ar 5 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Datganiad Ystadegol Awst 2020 – Digartrefedd a chysgu allan yn ystod COVID-19.
Cafwyd ymdrech anhygoel ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a sefydliadau’r trydydd sector, gan weithio mewn partneriaeth yn ystod y pandemig i gael pawb dan do ac yn ddiogel.
Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau enfawr yng Nghymru o ran cartref.
Ond, wrth i westai gau, a’r mesurau dros dro a roddwyd ar waith i letya pobl yn ystod y cyfnod clo yn dod i ben, rydym yn anffodus yn gweld mwy a mwy o bobl yn dychwelyd i’r strydoedd.
Roedd y gwaith a wnaed yn ystod COVID-19 yn enfawr – ond gadewch i ni fod yn glir – nid ydym wedi dod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Gwariwyd swm enfawr o arian yn lletya pobl dros dro ond, mewn llawer o achosion, ni ddarparwyd cartrefi iddynt.
Cyn y pandemig, bu ein Prif Weithredwr, Lindsay Cordery-Bruce, yn gweithio gyda’r Gweinidog a benodwyd i Grŵp Gweithredu yn erbyn Digartrefedd, i wneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellid datrys digartrefedd.
Roedd y pandemig yn golygu bod yn rhaid i ni i gyd dynnu at ein gilydd i gael pobl dan do, ond nawr bod yr argyfwng acíwt wedi lleihau, mae angen i ni roi’r argymhellion hynny ar waith fwy nag erioed, ac mae angen i ni weithredu’n gyflym
Mae angen i ni achub ar y cyfle hwn i sicrhau’r newidiadau strwythurol, cymdeithasol a gwleidyddol sydd eu hangen i sicrhau nad ydym yn mynd yn ôl i sut oedd pethau.
Mae ein Timau Ymyrraeth Cysgwyr Allan ledled Cymru yn cefnogi hyd at 30 o bobl ar strydoedd dros Gymru bob dydd.
Dim byd tebyg i’r 130 o bobl yr oeddem yn eu gweld bob dydd cyn y pandemig, ond yn dal i fod yn 30 yn ormod o bobl – ar unrhyw adeg – heb sôn am yn ystod pandemig.
Mae pobl wedi cael llety yn ystod y pandemig mewn gwestai, Gwely a Brecwast, llety brys, podiau, unrhyw le yr oedd lle. Ond nid yw’r rhain yn gartrefi cynaliadwy tymor hir.
Mae angen grymuso pobl i ailadeiladu eu bywydau a’u cefnogi i mewn i gartrefi yn y gymuned.
Nid oes unrhyw un eisiau byw mewn gwesty am bedwar, chwech, wyth mis gan oroesi ar barseli bwyd. Nid yw’n gynaliadwy.
Mae’r rhesymau y mae pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf; trawma, iechyd meddwl, perthynas yn chwalu, tlodi – yn dal i fodoli, ac mewn gwirionedd, maent hyd yn oed yn fwy cyffredin oherwydd y pandemig.
Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd fel busnesau, sefydliadau a chymunedau, i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau enfawr hyn, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar argymhellion y Grŵp Gweithredu Atal Digartrefedd a gweithredu’n gyflym.
Mae’r ystadegau a ryddhawyd heddiw yn dangos bod gweithredu’n gyflym yn dda, ond mae’n rhaid i’r gweithredoedd hynny fod yn gynaliadwy hefyd.
Dim ond wedyn y gallwn ni wirioneddol ddatrys digartrefedd yng Nghymru.