Roedd y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn argymell sefydlu fframwaith canlyniadau cenedlaethol y gallai Llywodraeth Cymru a chomisiynwyr awdurdodau lleol ei ddefnyddio i ddeall lle mae cynnydd yn cael ei wneud. Credwn fod hyn yn hanfodol er mwyn gallu mesur effaith ymyriadau polisi.
Rydyn ni wedi bod yn poeni o’r blaen bod nifer o awgrymiadau cadarnhaol – er enghraifft, defnyddio modelau gofal sy’n seiliedig ar drawma, cyd-gynhyrchu gwasanaethau’n uniongyrchol â chleientiaid, neu gyflogi gweithwyr cymorth sydd â phrofiadau uniongyrchol – yn cael eu crybwyll mewn canllawiau swyddogol a manylebau comisiynwyr, ond does dim ffordd o sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith yn ymarferol.
Ar hyn o bryd, nid oes gofyniad ffurfiol i awdurdodau lleol ymgynghori â darparwyr neu ddefnyddwyr gwasanaethau eu hunain cyn gwneud penderfyniadau mawr am wasanaethau.
Byddai fframwaith canlyniadau digartrefedd cenedlaethol yn gwella hyder yn y broses gomisiynu.
Dylid hefyd ystyried y fframwaith canlyniadau digartrefedd cenedlaethol hwn ochr yn ochr â’r fframwaith mwy sefydledig ar gyfer monitro canlyniadau iechyd cenedlaethol, gan fod cyswllt anorfod rhwng y ddau.
Yn y pen draw, byddem yn disgwyl gweld gostyngiad ystyrlon mewn digartrefedd a chysgu allan yn arwain at well canlyniadau ar draws sawl maes polisi cyhoeddus allweddol.
Rhaid annog comisiynwyr i ddatblygu asesiadau effaith cadarn ar gyfer eu cynigion, a rhaid i hyn gynnwys cael sgyrsiau diffuant ag arbenigwyr yn y sector, yn ogystal â chleientiaid presennol a’r rheini sydd â phrofiad go iawn.
Dylid hefyd ystyried y cyfrifoldeb dros fonitro’r fframwaith cenedlaethol a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif.
Gallai’r swyddogaeth hon gael ei harfer gan aelodau o’r Senedd, neu gan gorff annibynnol fel yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus neu Archwilio Cymru.