Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi rhyddhau’r ffigurau diweddaraf am farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr, sydd bellach yn draddodiad blynyddol ingol, ac nid yw’n hawdd eu darllen.
Cafodd 4,859 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Dyma’r nifer uchaf erioed ar gyfer yr 11eg flwyddyn yn olynol.
Mae hyn yn cyfateb i 84.4 marwolaeth fesul miliwn o bobl ac mae’n gynnydd o 6.2% o’i gymharu â’r nifer a gofnodwyd yn 2020.
Mae’r 3,060 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yn golygu bod y farwolaeth wedi cynnwys sylwedd anghyfreithlon, neu fod yr adroddiad wedi nodi bod camddefnyddio cyffuriau neu ddibyniaeth ar gyffuriau wedi chwarae rhan.
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw gwybodaeth am y cyffuriau penodol ar gael bob tro ac felly mae’r ffigur ar gyfer marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau wedi’i danamcangyfrif.
Mae hyn yn golygu bod o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y 4,859 o farwolaethau yn golygu bod rhywun yn cymryd cyffur am ba reswm bynnag ac yn marw’n ddamweiniol.
Mae hyn yn golygu y byddid wedi gallu osgoi’r rhan fwyaf o’r marwolaethau hynny.
Byddai’r rhan fwyaf o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi sy’n defnyddio sylweddau yn dod o dan y diffiniad ‘camddefnyddio cyffuriau’ a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn, felly mae’n bwysig bod gennym ni berthynas dda â nhw er mwyn iddyn nhw allu bod yn onest am yr hyn maen nhw’n ei ddefnyddio.
Drwy wneud hyn, gallwn wneud gwaith lleihau niwed a allai, yn y pen draw, achub eu bywydau.
Heb fanylion pob marwolaeth, mae’n amhosibl gwybod yn siŵr, ond mae’n debygol y gellid bod wedi osgoi llawer ohonynt pe bai rhywfaint o gamau lleihau niwed syml wedi cael eu cymryd.
Egwyddorion lleihau niwed rydyn ni’n eu defnyddio yn The Wallich, fel:
Un o’r ffigurau trawiadol eraill o’r adroddiad yw bod cynnydd o 88.3% yn nifer y marwolaethau sy’n cynnwys sylweddau seicoweithredol newydd, gan godi i 258 o 137 yn 2020.
Mae’r cynnydd yn cael ei briodoli i gynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n ymwneud ag analogau bensodiasepin, sef flubromazolam ac etizolam yn bennaf.
Mae’r ffigurau a nodir yn dangos cynnydd o 13% yn y marwolaethau sy’n gysylltiedig â bensos ers 2020 (476 i 538), yn ogystal â chynnydd o 18.9% mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â pregabalin (344 i 409), a chynnydd o 12.7% mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â gabapentin (118 i 133).
Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn defnyddio’r sylweddau hyn, ac mae llawer yn defnyddio amryw o gyffuriau, ac mae llawer yn yr ystod oedran ‘Cenhedlaeth X sef 45-49’.
Yn gryno, rydyn ni’n gweithio gyda llawer o bobl a allai gael eu cynnwys yn y ffigurau hyn y flwyddyn nesaf heb ymyriadau cadarnhaol.
Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn dal ati i feithrin perthynas dda a gweithio’n agos gyda chleientiaid, er mwyn lleihau’r niwed drwy siarad â nhw am eu defnydd o sylweddau a chydweithio i greu cynlluniau diogelwch sy’n cynnwys gwybodaeth ddiweddar a pherthnasol.
Mae cynlluniau diogelwch yn arbennig o bwysig i wneud yn union beth maen nhw i fod i’w wneud – cadw pobl yn ddiogel.