Mae wedi bod yn ddechrau gwych i dymor gwobrau’r gaeaf i rai o dimau ymroddedig The Wallich a gafodd eu cydnabod yn rhanbarthol ac yn genedlaethol am eu hymdrechion yn y gymuned.
Gwobrau Tai Cymru – Gwobr Creu Lleoedd Cadarnhaol
Mae Gwobrau Tai Cymru 2022, a drefnir gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, yn dathlu arferion da gyda chydweithwyr a thenantiaid ar draws y sector tai yng Nghymru.
Roeddem mor falch o dderbyn y Wobr Creu Lleoedd Cadarnhaol am brosiect blaenllaw gyda’n partneriaid.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn, mewn partneriaeth ag Elfennau Gwyllt i gyflenwi banciau bwyd Ynys Môn a Bywyd Da Môn gyda ffrwythau a llysiau ffres.
Cafodd y cyllid a sicrhawyd drwy ‘Fynd i’r Afael â Thlodi Bwyd ac Ansicrwydd Bwyd’ Llywodraeth Cymru, sef safle Parc Mount, Llangefni, ei ddarparu gan Care Link a bydd yn cael ei gynnal gan gleientiaid The Wallich.
Mae tŷ gwydr, gwelyau uchel, casgenni dŵr a sied eisoes wedi cael eu gosod ar y safle. Bydd y gwaith o ehangu’r ardal yn dechrau’n fuan diolch i gleientiaid The Wallich sydd wedi adeiladu mainc eistedd.
Gwobrau Tai Cymru – Gwobr Cefnogi Cymunedau
Un rhan o brosiect PAWS yw cymorth arbenigol i bobl sy’n rhan o Gymunedau sy’n Sipsiwn, Roma neu Deithwyr. (GRT).
Drwy weithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Castell-nedd Port Talbot, y Gwasanaeth Dysgwyr Agored i Niwed a mwy, mae’r ‘Prosiect Pontio’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol.
Rhaid cyfeirio’n arbennig at Christine Griffiths, aelod o staff The Wallich sy’n gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith hwn.
Rhwng mis Gorffennaf 2020 a mis Awst 2022, roeddem wedi cefnogi 50 o deuluoedd ar safleoedd carafanau sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol a 18 o deuluoedd mewn cartrefi brics a morter. Hefyd, mae 55 o bobl eraill o gymunedau GRT yn defnyddio ein gwasanaeth galw heibio.
Gwnaethom gefnogi hawliadau budd-daliadau gwerth £101,004 (cyfanswm blynyddol) a thaliad â chymorth gwerth £15,729 o fudd-daliadau wedi’u hôl-ddyddio.
Fe wnaethon ni helpu i ddefnyddio cronfeydd cymwys a sicrhau 272 o eitemau cartref fel peiriannau golchi, poptai, gwelyau, soffas.
Sicrhawyd £15,752 gennym i helpu gyda chostau byw gan gynnwys tanwydd, cyflenwadau ysgolion a chymorth i ofalwyr.
Bydd y buddsoddiad hwn yn y gymuned yn helpu i leihau’r risg o ddigartrefedd ac yn helpu pobl i fyw bywydau mwy diogel, hapusach a mwy annibynnol.
Gwobrau Mwy Na Dim Ond Tanau – Gwobr Partneriaeth Gymunedol
Mae Gwobrau Mwy na Dim Ond Tanau yn cydnabod y cyfraniadau anhygoel a wnaed gan gydweithwyr, partneriaid ac aelodau o’n cymuned sy’n cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, gan wneud y rhanbarth yn lle mwy diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.
Cafodd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli, ei chynnal gan gyflwynydd BBC Radio Wales, Wynne Evans.
Mae’n wych pan fydd gwasanaethau cyhoeddus yn y gymuned yn cydnabod ein gwerth o ran cadw pobl yn ddiogel. Gallwn hefyd helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddeall mwy am drawma, drwy gydweithio a dangos iddynt sut rydym yn gweithio.
Llongyfarchiadau i dimau Sir Gaerfyrddin sy’n gweithio’n galed i gynnal enw da The Wallich am gefnogi pobl ledled y rhanbarth, er eu bod i gyd yn darparu gwasanaethau gwahanol a phenodol.