Polisi Preifatrwydd

Mae eich cymorth yn ein helpu ni i gael pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd, a chreu cyfleoedd i bobl. Yn y Wallich, rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif ac ni fyddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ond i weinyddu eich cyfrif a darparu’r gwasanaethau yr ydych wedi gwneud cais amdanynt gennym ni.

Mae’r Wallich yn gyfrifol am yr wybodaeth a gesglir gennym. Felly, ein cyfrifoldeb ni yw sicrhau y caiff ei storio a’i phrosesu’n ddiogel ac yn deg. Mae’r polisi hwn yn amlinellu’r data a gesglir gennym, sut y mae’n cael ei ddefnyddio a’ch hawliau chi dros eich data.

Pa wybodaeth ydym ni’n ei chasglu?

Yr unig wybodaeth fyddwn ni’n ei chasglu yw’r wybodaeth sydd ei hangen arnom i weinyddu eich cyfrif yn effeithlon, gwella ein gwasanaethau, a chyfathrebu â chi yn y ffordd/ffyrdd yr ydych wedi eu dewis yn barhaus.

Mae’r data a gesglir gennym yn dod o fewn dau gategori:

  • Gwybodaeth bersonol yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhif(au) ffôn, cyfeiriad e-bost, dyddiad geni a chofnod o’ch rhoddion a’ch cyfathrebiadau.
  • Gwybodaeth nad yw’n bersonol fel tudalennau gwe yr edrychwyd arnynt a’r ffeiliau a lawrlwythwyd. Mae hyn yn ein helpu i fonitro a gwella ein gwasanaeth drwy ddeall faint o bobl sy’n ymweld â’n safle a pha straeon sy’n fwyaf diddorol gan bobl.

Caiff gwybodaeth bersonol ei chasglu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Wrth roi rhodd neu gofrestru ar gyfer digwyddiad neu restr bostio ar ein gwefan, caiff yr wybodaeth a ddarperir gennych ei chofnodi’n awtomatig ar ein cronfa ddata cefnogwyr, ynghyd â’ch dewisiadau o ran cyfathrebu a manylion eraill rydych wedi eu rhoi.

Os byddwch chi’n rhoi rhodd neu’n cyfathrebu â ni mewn unrhyw ffordd arall (e-bost, ffôn, wyneb yn wyneb, JustGiving, ac ati) gallai eich gwybodaeth hefyd gael ei chofnodi â llaw ar ein cronfa ddata cefnogwyr, pan fo hynny’n angenrheidiol i weinyddu eich cyfrif a / neu i ddarparu’r gwasanaethau rydych wedi gwneud cais amdanynt gennym ni.

Caiff manylion cyfathrebiadau a thrafodion parhaus hefyd eu cofnodi ar y gronfa ddata cefnogwyr.

Caiff gwybodaeth nad yw’n bersonol ei chasglu drwy ddefnyddio cwcis. I gael rhagor o wybodaeth am gwcis, edrychwch ar ein Polisi Cwcis.

Sut y caiff ei defnyddio?

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • Prosesu rhoddion neu daliadau eraill a gwirio trafodion.
  • Cyfathrebu â chi, yn y ffordd a bennwyd gennych, a chadw cofnod o’r holl gyfathrebiadau.
  • Cyflawni eich ceisiadau, fel anfon deunyddiau a gwybodaeth codi arian atoch mewn da bryd cyn heriau neu ddigwyddiadau, prosesu ceisiadau ar gyfer swyddi gwirfoddolwyr ac aelodaeth neu geisiadau i loterïau.
  • Rhoi gwybod i chi, yn achlysurol, sut mae eich cymorth yn gwneud gwahaniaeth.
  • Darparu gwasanaeth personol i chi, a allai gynnwys teilwra cyfathrebiadau a chynnwys ar gyfer defnyddwyr unigol, yn ogystal â thargedu cyfathrebiadau yn ôl oedran ac ardal i sicrhau ein bod yn darparu’r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi.
  • Cynnal ymchwil i ddthtr goadansoddi pa mor effeithiol yw ein hymgyrchoedd, ein gweithgareddau a’n cyfathrebiadau, er mwyn gwella ein gwasanaethau. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gwario arian yn y ffordd fwyaf priodol a chyfrifol.
  • Mewn rhai achosion, efallai y byddwn hefyd yn cynnal ymchwil sylfaenol gan ddefnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’n cefnogwyr. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth a fydd o ddiddordeb i chi – gan gynnwys gwahoddiadau i ddigwyddiadau ac ymweliadau â gwasanaethau, cynigion ar gyfer prosiectau ac ymgyrchoedd sydd ar y gorwel a’r wybodaeth ddiweddaraf am effaith ein gwaith.

Gyda phwy fyddwn ni’n ei rhannu?

Fyddwn ni byth yn rhannu eich data â sefydliadau eraill at eu defnydd eu hunain, oni fo’n ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda phartneriaid a ddewiswyd yn ofalus, sy’n darparu meddalwedd a gwasanaethau i ni i’n helpu i storio a phrosesu eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn effeithlon. Dim ond gyda sefydliadau rydym yn ymddiried ynddynt rydyn ni’n gweithio, ac rydym bob amser yn sicrhau y cynhelir y gwiriadau angenrheidiol o ran diwydrwydd dyladwy a bod contractau priodol yn eu lle i sicrhau eu bod yn: glynu wrth y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR); ond yn defnyddio eich gwybodaeth at y dibenion y cafodd ei chyflenwi; ac yn trin eich gwybodaeth mor ofalus ag y byddem ni.

Pan fo data’n cael eu trosglwyddo y tu allan i’r UE, rhoddir camau diogelu perthnasol yn eu lle fel cymal contract safonol yr UE sy’n sicrhau y cydymffurfir â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Cydsyniad a buddiant dilys

Byddwn yn dibynnu ar eich cydsyniad fel y brif sail gyfreithiol i ni gysylltu â chi. I wneud hyn, byddwn yn rhoi cyfle i chi roi gwybod i ni sut rydych yn dymuno i ni gysylltu â chi, gan sicrhau y bydd pob deunydd swyddogol, fel ffurflenni rhoi ar y we, cofrestru diddordeb ar ffurflenni digwyddiadau, tocynnau raffl ac ati, yn cynnwys datganiad preifatrwydd mewn lleoliad amlwg a modd o ddewis cydsynio’n gadarnhaol yn ôl sianel ac ardal.

Mewn rhai achosion, fe allech chi fod yn cysylltu â ni drwy sianel lle nad ydych wedi cael y cyfle i nodi eich dewisiadau o ran cyfathrebu yn y dyfodol (e.e. anfon rhodd drwy’r post ynghyd â llythyr). Yn yr amgylchiadau hyn, ac ar yr amod eich bod wedi darparu eich manylion cysylltu i ni o’ch gwirfodd a heb wneud cais i’r gwrthwyneb, byddwn yn dibynnu ar fuddiant dilys fel sail i gysylltu â chi am ein gwaith ac am gyfleoedd i gymryd rhan yn y dyfodol.

Am ba mor hir y byddwn ni’n cadw eich data?

Byddwn yn adolygu ein cronfa ddata’n flynyddol ac os bydd yn ymddangos nad ydych wedi ymgysylltu â’n gwaith am dros ddwy flynedd, byddwn yn anfon neges atoch i roi gwybod ein bod yn bwriadu tynnu eich manylion cysylltu oddi ar ein cronfa ddata. Os na fyddwn yn clywed fel arall gennych cyn pen 28 diwrnod i ddyddiad ein e-bost, byddwn yn:

  • Cael gwared ag unrhyw fanylion cysylltu rydym yn eu storio ar eich cyfer, fel eich cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Cadw cofnod o drafodion ariannol, digwyddiadau rydych wedi cymryd rhan ynddynt, yn ogystal â chyfathrebiadau blaenorol rhyngom.
  • Sicrhau bod y cyfrif a gedwir yn ein cronfa ddata yn cael ei farcio i nodi na ddylid cysylltu ymhellach.

Eich hawliau

Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) mae gennych nifer o hawliau o ran y ffordd y defnyddir eich data. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg, ac i atal eich data rhag cael ei ddefnyddio i ddibenion marchnata. I newid neu ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu, ewch i https://thewallich.com/cy/e-newyddlen/ neu anfonwch e-bost at ein tîm codi arian yn supportercare@thewallich.net.
  • Yr hawl i gael mynediad at gopi o’r data sydd gennym amdanoch drwy Gais am Fynediad gan Wrthrych Data.
  • Yr hawl i sicrhau bod data personol anghywir yn cael ei gywiro, ei ddileu neu ei ddinistrio.

Gellir gweld manylion llawn eich hawliau GDPR ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, cysylltwch â’n tîm drwy anfon e-bost at supportercare@thewallich.net neu ffonio 029 2066 8464.

Diweddarwyd ddiwethaf: 05 Awst 2020