Mynediad at wasanaethau gofal argyfwng iechyd meddwl i bobl ddigartref.
Ar ôl ymchwil helaeth dros yr wyth mis diwethaf, maent wedi cyhoeddi adroddiad sydd wedi canfod bod yr argyfwng iechyd meddwl yn effeithio’n anghymesur ar bobl sy’n ddigartref.

Y PRIF GANFYDDIADAU
- Mewn arolwg ar gyfer staff rheng flaen ynghylch cael gafael ar gymorth iechyd meddwl i bobl mewn argyfwng:
Roedd 83% yn ei chael yn anodd cael gafael ar y cymorth iawn i gleientiaid (63% yn ei chael yn anodd iawn)
Dywedodd 8% fod dim cymorth ar gael
Dim ond 3% o’r staff ddywedodd fod cymorth priodol ar gael
- Yn ôl dadansoddiad o 4,216 o gofnodion dros 3 blynedd ar system rheoli digwyddiadau’r elusen, roedd:
481 achos o hunan-niwed neu feddwl am hunanladdiad
294 achos yn ymwneud â gorddos cyffuriau neu alcohol
1,508 achos o ymddygiad afreolus neu ymosodol
- Roedd 35 o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth i wasanaethau cyhoeddus yn dangos:
Er bod gwasanaethau ar bapur yn honni eu bod yn hygyrch i bawb sydd eu hangen, yn ymarferol mae rhwystrau gwirioneddol yn wynebu pobl sy’n ddigartref, er gwaethaf lefelau uchel o angen.