Ar y cyd ag artistiaid a theatrau ledled Cymru, byddwn yn rhyddhau ton o frwdfrydedd artistig ac yn grymuso pobl sydd wedi bod yn ddigartref.
Mae gennym weledigaeth gyffredin
Dod â sgiliau a chyfleoedd newydd i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd a dod â lleisiau, cynulleidfaoedd a chydweithwyr newydd i theatrau yng Nghymru.
Rydyn ni eisiau datgelu talentau cudd a meithrin creadigrwydd yn The Wallich a chyflwyno pobl rydyn ni’n eu cefnogi i’r sector celfyddydau.
Rydyn ni yma i gefnogi pobl o bob cefndir, gan roi help llaw iddyn nhw i siapio eu straeon a’u syniadau yn rhywbeth anhygoel.
Gyda chymorth theatrau, byddwn yn grymuso pawb i rannu eu straeon yn y ffordd fwyaf cyffrous, ysbrydoledig a diogel posibl.
Bydd y Prosiect Stori yn cysylltu neu’n ailgysylltu’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi â hud y theatr ac adrodd straeon.
Yn 2022, fel rhan o’n prosiect cyffrous Ar y Cyrion bu The Wallich yn cydweithio ag Owen Thomas, dramodydd gwych o Gaerdydd, a gyda’n gilydd, fe wnaethom gynhyrchu’r ‘Monologau Bwlb Golau’.
Roedd y monologau hyn yn fwy na straeon.
Roedden nhw’n gyfnodau o fyfyrio a sbardunodd newid ar gyfer y bobl rydyn ni’n eu cefnogi.
Daeth y bartneriaeth hon yn gatalydd ar gyfer y Prosiect Stori.
Ac nid dyna ddiwedd y gân. Rydyn ni am adeiladu ar y llwyddiannau hyn drwy’r ffyrdd canlynol:
Ochr yn ochr ag Owen a’n partneriaid theatr, rydyn ni’n ehangu mwy na chyrhaeddiad y celfyddydau.
Byddwn yn ei wella, gan ei wneud yn fwy bywiog, cynhwysol a hwyliog nag erioed o’r blaen.
Bydd y Prosiect Stori yn cefnogi cyfranogwyr i ganfod llwybr unigryw, wedi’i deilwra i’w diddordebau a’u breuddwydion.
Nid yw’r daith hon yn dod i ben pan fydd llenni’r llwyfan yn cau.
Mae’r Prosiect Stori yn docyn i ddyfodol sy’n llawn gweithgareddau celfyddydol, gwirfoddoli a chyfleoedd cyflogaeth.
Dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar ein pen ein hunain – rydyn ni wedi creu grŵp llywio o gynrychiolwyr sy’n cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, theatrau a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant celfyddydol er mwyn sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant.
Bydd darnau theatr pwrpasol yn dod at ei gilydd mewn un digwyddiad cydweithredol.
Bydd pob grŵp o bob cwr o Gymru yn casglu ac yn plethu eu straeon gyda’i gilydd.