Dewis arall yn lle llety gwely a brecwast ym Mhen-y-bont ar Ogwr (ABBA)
ABBA Pen-y-bont ar Ogwr, 47 Heol Coity, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1LT
Pen-y-bont ar Ogwr
bridgendabba@thewallich.net
01656 652239
LLETY GWELY A BRECWAST AMGEN (ABBA) I BOBL YN Penybont ar Ogwr
Nod y prosiect yw paratoi preswylwyr ar gyfer eu tenantiaethau eu hunain drwy ddarparu cymorth sy’n gysylltiedig â thai, atgyfeiriadau at asiantaethau cymorth a dod o hyd i lety addas i symud ymlaen iddo.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cymorth lle bo’r angen am hyd at 6 wythnos ar ôl symud ymlaen i lety a enwebwyd.
Mae’r llety dros dro wedi’u lleoli ar draws y fwrdeistref sirol ac yn gymysgedd o unedau sengl a theuluol hunangynhwysol, modelau llety a rennir a llety a rennir gyda chanolfannau cymorth, a all gynnwys pob math o gyfansoddiad aelwydydd.
Beth i’w ddisgwyl:
- Sesiynau Cefnogi Rheolaidd
- Dull ‘gwneud gyda’ yn hytrach na ‘gwneud dros’
- Atgyfeiriadau at asiantaethau cymorth
- Amgylcheddau sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol
Atgyfeiriadau’n uniongyrchol o’r Awdurdod Lleol.

