Cerdd bob dydd: Dathlu creadigrwydd yn ystod mis cenedlaethol barddoniaeth

15 Apr 2025

Bydd awduron creadigol o Fôn i Fynwy yn rhannu penillion o’r galon bob dydd yn ystod mis Ebrill fel rhan o Brosiect Stori The Wallich – sef dathliad o fynegiant, cymuned a chreadigrwydd drwy farddoniaeth a chelf.

Mae mis Ebrill yn Fis Cenedlaethol Barddoniaeth, ac mae’r ysgrifenwyr yn ein plith, sy’n cymryd rhan yn y prosiectau rydym ni’n eu cynnal ym mhob rhan o Gymru, wedi cael eu hysbrydoli i rannu cerdd bob diwrnod yn ystod y mis.

Y dramodydd Owen Thomas sy’n arwain ein grŵp adrodd stori, ac maen nhw’n cwrdd yn wythnosol fel rhan o’r Prosiect Stori.

Dywedodd Owen:

“Mae wedi bod yn bleser arwain y sesiynau ysgrifennu wythnosol fel rhan o’r Prosiect Stori.

Bob wythnos, mae rhywun wedi ysgrifennu rhywbeth sydd wedi gwneud i ni gyd stopio’n stond. Dyma rai enghreifftiau…”

Mae’r awdur Steph Ellis yn gwirfoddoli gyda’r prosiect, ac yn helpu’r rhai sy’n dod i’r sesiynau yn Nhŷ Croeso, Wrecsam, bob dydd Mercher.

Dywedodd Steph:

“Roeddem ni eisiau rhannu’r holl dalentau rydym ni wedi eu canfod yn The Wallich o ganlyniad i’r Prosiect Stori.

Mae’r cerddi’n bersonol ac yn llawn mynegiant, ac mae’r ysgrifenwyr yn falch o gael eu rhannu.”

Does dim diwedd ar eu creadigrwydd – mae’r nifer o’r lluniau sy’n cyd-fynd â’r cerddi wedi eu creu gan Sam, aelod talentog arall o’r grŵp yn Nhŷ Croeso.

Mae rhagor o wybodaeth am y Prosiect Stori

Ymunwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael dos o farddoniaeth:  Facebook neu Instagram