Wrecsam
01978 357926

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (boed nhw’n berchen-feiddianwyr neu’n rhentwyr) ledled Wrecsam.
Mae’r gwasanaeth yn galluogi pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw eu llety a lleihau’r risg o fod yn ddigartref. Rydym ni’n gwneud hyn drwy rymuso pobl i gymryd rheolaeth o’u harian, i ddeall beth yw eu rhwymedigaethau fel deiliaid tŷ, ac i wella eu sgiliau bywyd.
Bydd y gefnogaeth a roddir yn:
Rydym yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw mewn llety rhent preifat, tai sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai, a pherchen-feddianwyr.
Mae unrhyw un sydd angen cymorth i’w hatal rhag bod mewn perygl o fod yn ddigartref neu i sicrhau amgylchiadau tai mwy sefydlog yn gymwys.
Gallwch gael eich cyfeirio drwy Borth Cymorth Tai Cyngor Wrecsam i gael help gan y prosiect hwn.