Doorstop Wrecsam

Richmond House, 31 Ffordd Grosvenor, Wrecsam, LL11 1BT

Wrecsam

01978 800 700

Mae Doorstop Wrecsam yn wasanaeth llety â chymorth canolig a chefnogaeth hyblyg i bobl sy’n byw yn Wrecsam

Nod Doorstop Wrecsam yw rhoi’r sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i symud ymlaen gyda’u bywydau, gwneud cysylltiadau cadarnhaol yn eu cymunedau, a chynnal byw’n annibynnol.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

Mae gwasanaeth Doorstop Wrecsam ar gyfer unigolion 18 oed a throsodd sydd ag anghenion cyffredinol yn ymwneud â defnyddio sylweddau neu unigolion sydd â chefndir troseddol ac sy’n ddigartref ar hyn o bryd neu mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae hynny yn cynnwys y bobl ganlynol:

  •  Pobl sengl 18 oed a hŷn
  • Pobl ag anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â defnyddio sylweddau
  • Pobl sy’n gadael y carchar

Mae’r gwasanaeth yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn annog defnyddwyr gwasanaeth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol fel cael sgiliau newydd a hyder i fyw’n fwy annibynnol.

Mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy lety â chymorth neu ‘gymorth fel bo’r angen’, h.y. yn eu cartrefi eu hunain, ar draws pob deiliadaeth.

Mae’r cymorth yn cael ei deilwra i’r unigolyn, gan sicrhau bod anghenion pob cleient yn cael eu hystyried.

Bydd y gefnogaeth yn ymdrin â meysydd megis:

  • Lleihau nifer y bobl sy’n cael eu troi allan a’r risg o fod yn ddigartref
  • Cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau bywyd sy’n eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain
  • Cefnogi pobl i barhau i ymwrthod a lleihau niwed o ddefnyddio cyffuriau ac alcohol
  • Bod yn ataliol i leihau’r galw am wasanaethau eraill megis iechyd a gwasanaethau cymdeithasol
  • Ategu’r gofal cymdeithasol neu feddygol sydd ei angen ar unigolion
  • Cael ei harwain gan ddefnyddiwr y gwasanaeth
  • Lleihau tebygolrwydd ymddygiad troseddol
  • Lleihau dyled ac annog cynnydd economaidd
  • Helpu i liniaru effeithiau diwygio lles
  • Cyfeirio pobl at wasanaethau sy’n cynnig cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth
  • Integreiddio pobl yn eu cymunedau
  • Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Lleihau ynysu cymdeithasol a’r risgiau cysylltiedig o lithro’n ôl

Sut mae cyfeirio rhywun at y gwasanaeth?

Rhaid i bob cyfeiriad gael ei wneud drwy borth Cymorth Tai Wrecsam.

E-bost: Housingsupportgateway@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 298812

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni.