Wrecsam
01978 357926
Mae Gwasanaeth Cymorth lle bo’r angen Wrecsam yn rhoi cymorth i bobl gadw eu llety.

Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (boed nhw’n berchen-feiddianwyr neu’n rhentwyr) ledled Wrecsam.
Mae’r gwasanaeth yn galluogi pobl i gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw eu llety a lleihau’r risg o fod yn ddigartref. Rydym ni’n gwneud hyn drwy rymuso pobl i gymryd rheolaeth o’u harian, i ddeall beth yw eu rhwymedigaethau fel deiliaid tŷ, ac i wella eu sgiliau bywyd.
Bydd y gefnogaeth a roddir yn:
- Lleihau digartrefedd ac achosion o droi pobl allan o’u cartrefi
- Lleihau dyled
- Annog pobl i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a hyfforddiant
- Cynyddu cydlyniant cymunedol
- Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Lleihau ynysigrwydd cymdeithasol
- Cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau bywyd sy’n eu galluogi i fyw’n fwy annibynnol
Pwy sy’n gymwys?
Rydym yn rhoi cymorth i bobl sy’n byw mewn llety rhent preifat, tai sy’n eiddo i awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai, a pherchen-feddianwyr.
Mae unrhyw un sydd angen cymorth i’w hatal rhag bod mewn perygl o fod yn ddigartref neu i sicrhau amgylchiadau tai mwy sefydlog yn gymwys.
Sut mae cael help
Gallwch gael eich cyfeirio drwy Borth Cymorth Tai Cyngor Wrecsam i gael help gan y prosiect hwn.