Gwna Dy Beth: Codi arian eich ffordd CHI i fynd i’r afael â digartrefedd gyda’n gilydd

Mae The Wallich wedi lansio ffordd newydd i gefnogwyr gymryd rhan yn yr ymgyrch i roi diwedd ar ddigartrefedd – ac mae’n galw ar bobl Cymru i fynd ati  i wneyd ‘dy beth’ a dathlu pŵer unigoliaeth.

Does dim ffordd gywir nac anghywir o godi arian, ac mae ymgyrch Gwna Dy Beth yn annog hynny, gan hyrwyddo creadigrwydd a rhyddid.

Pan fydd pobl yn cael eu grymuso i wneud pethau eu ffordd eu hunain, mae newid cadarnhaol yn digwydd.

Boed yn ddawnsathon, trochi mewn dŵr oer, neu rywbeth hollol wreiddiol, mae pob cyfraniad yn codi arian, yn ysbrydoli eraill ac yn deffro dychymyg pobl dros achos hanfodol.

Barod i ddechrau?

    1. Dewiswch eich peth chi

Digwyddiad, her, neu weithred syml o roi.

    1. Ewch yn ddigidol

Agorwch dudalen JustGiving i adrodd eich stori a chasglu rhoddion.

  1. Rhannwch y weithred

Cofiwch gynnwys @homelessinwales neu The Wallich yn eich negeseuon a defnyddiwch #GwnaDyBeth ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gallwn ni ddathlu eich taith

Sut i’w wneud Gwna Dy Beth

O’r anturus i’r anghonfensiynol, mae yna amrywiaeth o ffyrdd o gefnogi.

Dyma ambell i syniad codi arian mae ein cefnogwyr gwych eisoes wedi’i wneud er mwyn eich ysbrydoli.

Pam rydyn ni eich angen chi

Mae’r hyn a ddechreuodd fel hostel 10 gwely yn 1978 wedi tyfu i fod yn fudiad cenedlaethol, gan ddarparu mwy na 100 o wasanaethau ledled Cymru a thros 400 o welyau bob nos.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar dri philer craidd:

Drwy allgymorth, llety a gwasanaethau cymorth, rydyn ni’n helpu pobl i ail-fagu hyder, annibyniaeth a sefydlogrwydd.

Gweithredoedd bach, effaith fawr

Mae’r arian sy’n cael ei godi drwy eich gweithgareddau unigryw yn mynd yn uniongyrchol tuag at gael gwared ar y rhwystrau sy’n sefyll rhwng unigolyn a chartref sefydlog.

Straeon go iawn, effaith go iawn

Mae eich cefnogaeth yn newid bywydau fel bywydau Adele a Faisal.

Stori Adele

Ar ôl profi camdriniaeth ddomestig a chysgu ar y stryd, derbyniodd Adele gefnogaeth gan wasanaeth arbenigol i fenywod yn The Wallich. Ers graddio o raglen hyfforddi, mae Adele bellach yn ailgychwyn ar ei gyrfa fel mecanig.

Wrth feddwl am ei hamser gyda The Wallich, meddai Adele:

“Dw i wedi dod yn berson gwahanol. Yn well person. Mae’r Gweithwyr Cymorth yn anhygoel; maen nhw’n fodlon gwneud unrhyw beth i fi. Maen nhw wedi gwneud y daith yn anhygoel, wedi gwneud fy mywyd yn well, maen nhw wedi fy nghynghori, fy rhoi ar ben ffordd ac wedi fy annog bob amser i wneud yn dda oherwydd fy mod i’n berson da. Maen nhw’n fy neall i, maen nhw’n gwybod ble rydw i wedi bod, pa fath o daith rydw i wedi bod arni ac rydw i’n well nawr.”

Adele

Stori Faisal

Ar ôl blynyddoedd o gaethiwed, cwblhaodd Faisal raglen ymatal dwys gyda phrosiect Wallich yn Abertawe. Mae e bellach wedi adennill ei annibyniaeth ac mae’n barod i ddechrau pennod newydd mewn cartref diogel a pharhaol.

“Mae wedi bod yn grêt ers i fi fod yma. Dw i wedi cael llwyth o gefnogaeth. Dw i’n teimlo’n dda nawr.  Dw i ddim eisiau mynd yn ôl i’r llefydd gwael, lle mae cylchoedd o gyffuriau. Dydw i ddim eisiau mynd yn ôl y ffordd yna eto. Dw i wedi bod yno ac wedi profi’r peth. Hen gêm wirion yw hi. Dw i wedi cyflawni llawer ers bod yn rhan o brosiect The Wallich. Dw i yn y broses o symud ymlaen erbyn hyn.”

Neges gan ein tîm

Meddai Louisa Turner, Pennaeth Codi Arian The Wallich:

“Yn The Wallich, rydyn ni’n credu bod gan bawb gyfraniad unigryw i’w wneud. Mae ein hymgyrch ‘Gwna Dy Beth’ yn ddathliad o’r amrywiaeth yna. Rydyn ni’n gweld yn uniongyrchol bob dydd sut mae grymuso rhywun i fod yn nhw eu hunain yn drobwynt yn eu taith allan o ddigartrefedd.

“Drwy ddewis codi arian mewn ffordd sy’n adlewyrchu eich angerdd eich hun – ni waeth pa mor anghonfensiynol ydyn nhw – rydych chi’n mynd ati i godi arian hanfodol yn ogystal ag anfon neges bwerus o undod. Rydych chi’n profi, pan fyddwn ni i gyd yn rhydd i fod yn ni ein hunain, ein bod ni’n gallu cael gwared ar y rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl a chreu Cymru lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.”