Drwy bartneru â ni, gall eich sefydliad helpu i greu newid ystyrlon a pharhaol.
Nid yn unig yn trawsnewid bywydau unigol ond yn cryfhau cymunedau ledled Cymru.
Bob blwyddyn, rydym yn cefnogi mwy na 7,000 o bobl.
Y tu ôl i bob ystadegyn mae person go iawn sy’n wynebu ansicrwydd, unigedd, a cholli lle diogel i’w alw’n gartref.
O ddarparu gwasanaethau allgymorth a llety â chymorth i raglenni arbenigol sy’n meithrin sgiliau, hyder, ac ymdeimlad newydd o bwrpas, rydym yno i bwy bynnag sydd ein hangen, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ond ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain.
Boed drwy godi arian, gwirfoddoli, nawdd, neu gydweithio strategol, mae eich cefnogaeth yn ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl, ymateb i anghenion brys, a darparu atebion arloesol i ddigartrefedd.
Gyda’n gilydd, gallwn fynd i’r afael â digartrefedd.






“Rwy’n falch oherwydd dydw i ddim yn meddwl y byddwn i lle rydw i nawr heb The Wallich. Dydw i ddim hyd yn oed yn meddwl y byddwn i wedi goroesi. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi byw.”
Mae eich partneriaeth yn gwneud straeon fel straeon Kerry yn bosibl.
Ymunwch â ni i greu dyfodol lle nad oes rhaid i neb wynebu digartrefedd ar ei ben ei hun.
E-bost: corporate@thewallich.net