Rydyn ni’n falch iawn o rannu bod ein Prosiect Pobl Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill gwobr Elusen Eithriadol yng Ngwobrau Plant Cymru.

Ers dros 10 mlynedd, mae ein gwasanaethau i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi cannoedd o bobl ifanc ar adegau tyngedfennol yn eu bywydau, gan gynnig diogelwch ar unwaith a llwybrau hirdymor i ddianc rhag digartrefedd.
Mae’r wobr hon yn cydnabod ymroddiad ein staff, sydd byth yn troi cefn ar y bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi. Dyw cynnydd ddim wastad yn syml. Gall pobl ifanc adael, dychwelyd, wynebu trafferthion neu ddatgysylltu, ond mae’r gefnogaeth wastad yno. Weithiau, mae newid yn digwydd mewn camau bach, dros fisoedd neu flynyddoedd hyd yn oed, ond mae pob cam ymlaen yn bwysig.
Mae llwyddiant y prosiect yn dangos, gyda’r cymorth iawn ar yr amser iawn, y gall hyd yn oed y dechreuadau mwyaf heriol arwain at ddyfodol mwy disglair. Drwy helpu pobl ifanc i deimlo’n fwy diogel, yn fwy hyderus ac yn fwy positif am yr hyn sydd ar y gweill, rydyn ni’n eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
Llongyfarchiadau i bawb sy’n rhan o’r gwaith. Mae’n anrhydedd gweld y gwaith hwn, sy’n newid bywydau, yn cael ei gydnabod.
Rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau i bobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr:
Lluniau o Wobrau Plant Cymru: