Abertawe, Castell-nedd Port Talbot
info@verve.cymru
0300 790 4044

Mae VERVE yn wasanaeth cyffuriau ac alcohol a ddarperir gan gynghrair yn cynnwys Adferiad, Barod, Kaleidoscope, a The Wallich. Gydag un llwybr clir i mewn i’r gwasanaeth, beth bynnag yw dull neu lefel y gefnogaeth sydd ei hangen, gall pobl gael mynediad i wasanaeth eang ei gwmpas sy’n croesawu pawb heb feirniadaeth. Rydym yn cymryd amser i wrando ac i ddeall amgylchiadau pob person ac yn gweithio gyda nhw i leihau niwed ac i gyflawni’r nodau sy’n bwysig iddynt. Mae VERVE yn gweithio’n agos gyda gwasanaethau lleol eraill, gan alluogi unigolion i symud yn hawdd rhwng VERVE a chefnogaeth arall yn eu cymuned.
Mae VERVE yn cefnogi pobl o bob oedran ar draws Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, gyda phlant a phobl ifanc 25 oed ac is yn cael y cynnig o gefnogaeth ddiogel sy’n addas i’w hoedran ac ar wahân oddi wrth oedolion. Mae VERVE yn cynnig cefnogaeth cyffuriau ac alcohol bwrpasol i’r rhai hynny sy’n ddigartref neu mewn risg o ddigartrefedd, a phobl ar wahanol gamau o’r system cyfiawnder troseddol, gyda chefnogaeth wedi ei haddasu i’w hamgylchiadau a’u hanghenion penodol. Rydym hefyd yn cydnabod y gall defnyddio cyffuriau ac alcohol effeithio ar deuluoedd a’r rhai hynny sy’n agos i’r person, felly mae cefnogaeth ar gael iddyn nhw hefyd.
Boed nod rhywun i leihau neu i roi’r gorau i’w defnydd o gyffuriau neu alcohol, neu i gynnal newidiadau maent eisoes wedi eu gwneud, dechreuwn gyda beth mae pob person yn dymuno ei gyflawni ac yna cytuno ar y camau nesaf gyda’n gilydd, gan weithio i osod nodau ar gyfer dyfodol uchelgeisiol. Wrth i anghenion pobl newid, gallent symud rhwng mathau a lefelau’r gefnogaeth yn seiliedig ar eu hamgylchiadau.
Gall y gefnogaeth gynnwys:
- Ymyraethau un i un wedi’u teilwra
- Sesiynau grŵp a chefnogaeth cymheiriaid strwythuredig
- Cyngor ar ddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn fwy diogel, lleihau niwed, ac atal gorddosio
- Gwasanaethau nodwyddau a chwistrelli (‘NSP’), yn cynnwys offer di-haint a gwaredu diogel
- Sgrinio firws a gludir yn y gwaed (‘BBV’), yn cynnwys profi smotyn gwaed sych (‘DBST’)
- Ffyrdd ymarferol i reoli chwantau, i adnabod sbardunau ac i gynnal newidiadau
- Cefnogaeth i deuluoedd ac eraill a effeithir gan y defnydd o gyffuriau neu alcohol gan rhywun arall
- Cymorth i gael mynediad i grwpiau cymorth cydfuddiannol a grwpiau iechyd a chymunedol eraill
- Cefnogaeth gydag ymataliaeth ac adferiad
Gall unigolion gael mynediad i’r gwasanaeth drwy gysylltu â Thîm Pwynt Cyswllt Unigol VERVE ar 0300 7904044 neu info@verve.cymru, neu drwy gwblhau ein ffurflen atgyfeirio yn verve.cymru. Croesawn atgyfeiriadau proffesiynol gan lwybrau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol.
Derbynir atgyfeiriadau drwy wasanaeth Sgwrsio Gwe Byw Barod rhwng oriau 9am a 5pm Dydd Llun – Dydd Gwener. I ddefnyddio’r Sgwrs Fyw, ewch i barod.cymru a chliciwch ‘Chat Live’.
Mae ein canolfannau yn agored i alw i mewn rhwng yr oriau 9.30am – 12.30pm ac 1.30pm – 5pm
Port Talbot:
- 46 Talbot Road, SA13 1HU
Castell-nedd:
- 15 Victoria Gardens, SA11 3AY (Oedolion)
- 30 Victoria Gardens, SA11 3BH (Pobl ifanc)
Abertawe:
- 73-74 Mansel Street, SA1 5TR (Oedolion)
- Info-Nation, 47 The Kingsway, SA1 5HG (Pobl ifanc)
Comisiynwyd gan Fwrdd Arwain Cyffuriau ac Alcohol Castell-nedd Port Talbot