Gadewch rodd yn eich Ewyllys

Cymynroddion

Gadael cymynrodd ar gyfer dyfodol mwy disglair i rywun sy’n profi digartrefedd

Dyn mewn hostel. Gadewch rodd yn eich Ewyllys, eich etifeddiaeth.

Gallai meddwl am yr hyn sy’n digwydd ar ôl i ni fynd fod yn un o benderfyniadau pwysicaf bywyd. Ar ôl i chi sicrhau bod eich anwyliaid yn iawn, mae’n bosibl yr hoffech chi ystyried cefnogi The Wallich yn eich Ewyllys.

Gallai’ch etifeddiaeth chi helpu rhywun i ddechrau ei fywyd o’r newydd drwy gynnig dyfodol gwell a darparu ffordd allan o ddigartrefedd.

Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys i The Wallich yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau y gallwn barhau i fod yno i ddarparu atebion i’r rhai sydd eu hangen.

Gall cyfraniad bach gael effaith enfawr a gallwch chi helpu i ddarparu dyfodol lle mae digartrefedd yn perthyn i’r gorffennol.

Creu eich Ewyllys am ddim ar-lein

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Kwil, sef gwasanaeth ar-lein sy’n eich galluogi i greu eich Ewyllys o’ch cartref.

Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddiogel, yn gyfrinachol, yn rhad ac am ddim ac mae modd ei gwblhau mewn cyn lleied â 30 munud.

Gallwch chi ddefnyddio’r adnodd ar-lein neu gall un o arbenigwyr Kwil eich arwain chi drwy’r broses.

Ysgrifennwch eich Ewyllys gyda Kwil

Os hoffech chi gofio am The Wallich yn eich Ewyllys, enw ein helusen yw Wallich Clifford Community, a rhif cofrestru’r elusen yw 1004103 (yng Nghymru a Lloegr).

Beth fydd eich cymynrodd chi?

Dyfodol lle mae gan bawb le i’w alw’n gartref.

Rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd newydd ac arloesol i ddarparu ateb i’r nifer gynyddol o bobl sy’n ddigartref.

Gallai gadael rhodd yn eich Ewyllys ariannu gwasanaethau sy’n gwneud gwahaniaeth hanfodol i fywydau pobl, a dylanwadu ar ddyfodol lle nad oes rhaid i neb dreulio noson ar y strydoedd.

Darllenwch ein hastudiaethau achos i weld sut bydd eich rhodd yn gwneud gwahaniaeth

Darparu mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau hanfodol i bobl sy’n cysgu allan.

Mae ein gweithrediadau symudol yn mynd â cherbydau allgymorth i’r digartref ar strydoedd Cymru, gan gwrdd a helpu pobl lle maen nhw. Drwy ddarparu brecwast, cawodydd, cyfleusterau golchi dillad a sgriniau iechyd, mae ein cerbydau lles a llesiant yn achubiaeth i’r rhai nad ydynt efallai’n gallu cael gafael ar wasanaethau’n lleol.

Gallai gadael rhodd yn eich Ewyllys ein helpu i gynnal y cymorth hanfodol hwn lle mae ei angen fwyaf.

Newid bywydau drwy gwnsela i bobl y mae trawma yn effeithio arnynt.

Credwn fod cadw pobl oddi ar y strydoedd yn golygu mwy na dim ond darparu gwely, a tho uwch eu pen. Gall mynd i’r afael â thrawma sydd wedi cael effaith negyddol ar fywyd person arwain at newidiadau cadarnhaol a pharhaol.

Mae cwnsela gyda gweithiwr proffesiynol niwtral yn darparu lle diogel i bobl archwilio a phrosesu digwyddiadau’r gorffennol. Mae’n ffordd o helpu pobl i ddeall achosion sylfaenol eu pryderon a’u hymddygiad o ddydd i ddydd, ac mae’n darparu adnoddau newydd ar gyfer mynd i’r afael â heriau bywyd.

Gallai gadael rhodd yn eich Ewyllys helpu i greu agwedd newydd a chadarnhaol ar gyfer y rhai sydd wedi wynebu trawma a’i ôl-effeithiau.

Torri’r cylch digartrefedd am byth.

Yn aml, sicrhau gwaith sefydlog â thal yw’r ffordd orau allan o ddigartrefedd i’r rhai sy’n gallu gweithio.

Drwy gynnig cyfle i rywun ddatblygu eu hyder a’u sgiliau, gallwn eu helpu i roi diwedd ar eu digartrefedd am byth.

Gallai hyn fod drwy weithgareddau awyr agored, garddio a thyfu bwyd, neu rhaglenni ysgrifennu creadigol a’r theatr.

Gallai gadael rhodd yn eich Ewyllys gynnig dyfodol mwy disglair i’r rhai sydd wedi cael eu cadw yn y tywyllwch.

Siaradwch gyda ni am eich cymynrodd

Os oes maes penodol o’n gwaith yr hoffech chi ei gefnogi yn eich Ewyllys, byddem wrth ein bodd yn siarad â chi.

I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi gyfrannu yn eich Ewyllys, neu sut bydd eich rhodd chi’n helpu’r rhai sydd mewn angen, cysylltwch â Louisa, ein Pennaeth Codi Arian:

E-bost: dosomething@thewallich.net

Ffoniwch: 02920 668 464