Y Rhwydwaith Myfyrio

Y Rhwydwaith Myfyrio

Rhwydwaith o gwnselwyr hyfforddedig i helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i ddelio â’r trawma

Beth yw’r Rhwydwaith Myfyrio?

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn wasanaeth cwnsela, wedi’i greu a’i ddylunio pan sylweddolom ein bod yn ymateb yn bennaf i bryderon ac ymddygiad o ddydd i ddydd, yn hytrach na mynd at yr achosion sylfaenol.

Yn aml, gall fod yn broses hynod o heriol neu hir i’n cleientiaid gael gafael ar wasanaeth cwnsela, felly fe wnaethom greu ein gwasanaeth pwrpasol ein hunain i ddarparu ar gyfer hyn.

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn wasanaeth adweithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth The Wallich a’i nod yw cysylltu pobl â chwnselydd cyn gynted â phosibl ar ôl cael eu hatgyfeirio. Fodd bynnag, gall rhestrau aros effeithio ar hyn gan nad oes cyfyngiad amser ar y sesiynau.

Gan fod pawb yn wahanol, mae ein model yn defnyddio dull integreiddiol, gan na fydd un ateb yn addas i bawb. Mae hyn yn golygu y gall cwnselwyr ddewis y math o therapi a fydd yn gweddu orau i’r cleient.

Mae gennym dîm o 12 o gwnselwyr yn gweithio ym mhob ardal lle’r ydym yn gweithio yng Nghymru.

Mae cwnselwyr yn gwybodus am drawma, er mwyn cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth orau.

Prif fanteision cwnsela

Mae cwnsela gyda gweithiwr proffesiynol niwtral yn galluogi pobl i rannu agweddau anodd ar eu bywydau heb ofni cael eu barnu na chael eu stigmateiddio.

Gallai’r rhain fod yn bethau mae rhywun heb siarad amdanynt o’r blaen, a gallant fod yn bethau anodd iawn i’w cario gyda nhw am gyfnodau hir.

Mae cwnsela yn rhoi cyfle a lle diogel i bobl archwilio digwyddiadau’r gorffennol a’r presennol, a deall yn well a phrosesu yr hyn sydd wedi digwydd. Mae’n mynd i’r afael â thrawma sydd wedi cael effaith negyddol ar fywyd rhywun.

Rydyn ni’n credu bod yr unigolyn, drwy’r broses hon, yn gallu cyflawni newidiadau sylweddol, cadarnhaol a pharhaol.

Ni fyddai’r Rhwydwaith Myfyrio yn bosibl oni bai am Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a Sefydliad Moondance


Cyflawniadau allweddol

Ers lansio’r Rhwydwaith Myfyrio ym mis Mawrth 2019, hyd at fis Mawrth 2024, rydyn ni wedi hwyluso 22,762 o apwyntiadau cwnsela ar gyfer 1948 o bobl.

Ar anterth cyfnodau clo COVID-19 yn 2020, roedd 117 o bobl a fyddai fel arall wedi cael eu heithrio wedi cael galwad ffôn gan gwnselydd o fewn 24 awr – weithiau ar yr un diwrnod neu hyd yn oed o fewn yr awr.

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio yn hyblyg ac yn addasadwy iawn. Rydyn ni’n parhau i wneud newidiadau cyson i’r gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu er mwyn bod yn fwy hygyrch i’r holl bobl rydyn ni’n eu cefnogi.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â Reflections.Network@thewallich.net

Dim ond i bobl sy’n rhyngweithio â gwasanaethau The Wallich y mae’r Rhwydwaith Myfyrio ar gael.