Ar ôl wynebu digartrefedd, teimlo’n ynysig a dirywiad yn ei iechyd meddwl, daeth James o hyd i hyder, pwrpas a gobaith o’r newydd gyda chefnogaeth The Wallich.
Darllenwch stori James

Sut beth oedd eich bywyd cyn i chi gael cefnogaeth gan The Wallich?
“Dwi wedi bod yn byw mewn llety dros dro ers 2025.
Roedd fy iechyd meddwl yn chwalu. Roeddwn i’n ddigartref.
Dwi’n byw ar wahân i fy mab ers iddo fod yn dair oed. Mae’n anodd.”
Sut mae The Wallich wedi gwneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi?
“Rydw i wedi bod gyda The Wallich ers 12 mis, ac mae popeth wedi newid. Mae The Re;Store [man cymunedol The Wallich ym Mhont-y-pŵl] wedi helpu’n aruthrol.
Mae wedi magu fy hyder – cwrdd â phobl newydd, gweld wynebau cyfeillgar, mynd ar deithiau cerdded llesiant a gwneud gweithgareddau.
Mae Lisa, Dawn a Tayla [aelodau staff The Wallich] wedi bod yn anhygoel.
Os bydd arnoch angen cymorth byth, maen nhw wastad yno.”
Beth mae’r dyfodol yn ei addo?
“Mae fy nyfodol yn edrych yn gadarnhaol.
Mae gen i dair swydd wirfoddoli. Fy ngham nesaf yw cael fy lle fy hun i fyw ynddo.
Dwi’n creu atgofion.
Mae The Wallich wedi newid fy mywyd.”
Dywedodd Lisa, Cydlynydd Cydgynhyrchu The Wallich
“Mae James wedi bod yn ysbrydoliaeth i bawb o’i gwmpas.
Mae ei barodrwydd i roi cynnig ar brofiadau newydd, cefnogi eraill, a dod ag egni cadarnhaol yn ei wneud yn ased gwerthfawr i Boost Imagineers Gwent.”
Cyfrannwch i gefnogi rhywun fel James.
Gallai eich rhodd untro eleni helpu i ariannu cymorth hanfodol, gwelliannau i wasanaethau, a phrosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’r bobl a’r cymunedau sydd ei angen fwyaf.