Am fwy na degawd, bu Nathan yn gaeth i gyffuriau a oedd yn rheoli ei fywyd. Gyda chymorth gan The Wallich, mae’n byw bywyd heb gyffuriau erbyn hyn. Mae’n byw’n annibynnol ac yn benderfynol o ddefnyddio ei brofiadau i helpu eraill i ffynnu.

Darllenwch ei stori
“Cyn i mi ddod i The Wallich, roedd fy mywyd yn anrhefn lwyr. Roedd yn llanast. Cyffuriau oedd wrth wraidd popeth.
Do’n i ddim yn byw, do’n i ddim yn bwyta, do’n i ddim yn bodoli mewn gwirionedd. Ro’n i’n gaeth i gyffuriau am o leiaf ddeng mlynedd.
Fe ddechreuodd popeth ar lefel fach, ond bob tro roedd rhywbeth yn digwydd yn fy mywyd, ro’n i’n defnyddio hynny fel esgus i fynd ar fwy o gyffuriau caletach.
Cyn pen dim, rydych chi’n colli rheolaeth ar eich bywyd a does dim byd yn llythrennol y gallwch chi ei wneud am y peth, oni bai eich bod chi’n cael help.“
Dros y blynyddoedd, daeth Nathan yn ddibynnol ar heroin, crac cocên a sylweddau eraill. Roedd yr effaith ar ei iechyd corfforol yn ddifrifol.
“Mae gen i gyflyrau iechyd gwael iawn oherwydd fy ffordd o fyw.”
Wrth iddo fynd yn fwy a mwy caeth, cafodd Nathan ei ddal mewn cylch diddiwedd o oroesi.
“Bob dydd rydych chi’n deffro’n sâl ac yn mynd i’ch cragen. Yna mae’n rhaid i chi ddod o hyd i arian pa bynnag ffordd y gallwch chi. Cardota, dwyn o siop, beth bynnag sydd angen ei wneud. Ddydd ar ôl dydd.
Yn y pen draw, rydych chi’n dechrau gofyn i chi’ch hun, beth yw’r pwynt?”
Dod o hyd i gymorth
Cysylltodd Nathan â The Wallich am y tro cyntaf drwy ein gwasanaethau cysgu allan yn Abertawe.
“Fe wnaethon nhw roi gwely brys i mi yn gyntaf. Wedyn, fe wnaethon nhw gynnig lle i mi yn Ninas Fechan.”
Er ei fod yn dal i ddefnyddio sylweddau ar y pryd, dechreuodd taith Nathan tuag at adferiad pan symudodd drwy wasanaethau llety The Wallich gan gyrraedd Tŷ Tom Jones yn y pen draw.
“Pan symudais i Dŷ Tom Jones, dechreuodd pethau wella. Yn araf bach, fesul tipyn.
Ro’n i’n meddwl fy mod i’n gallu gwneud hyn ar fy mhen fy hun, ond do’n i ddim yn gallu. Roedd angen help a chefnogaeth arna i.
Hyd yn oed os mai dim ond sgwrs gyda rhywun oedd hyn, rhywun i fod yno yn fwy na dim.”
Grym cefnogaeth emosiynol
Pan ofynnwyd iddo beth wnaeth y gwahaniaeth mwyaf i’w adferiad, dywedodd Nathan:
“Yn fwy na dim, y gefnogaeth emosiynol. Hyd yn oed os mai dim ond sgwrs gyda rhywun oedd hyn, rhywun i fod yno. Dyna oedd y prif beth.
Fe wnaethon nhw fy nysgu beth i’w wneud pan oedd rhywbeth yn digwydd. Fe roddodd hyn strwythur i mi. Fe wnaeth fy helpu i stopio colli rheolaeth.”
Ochr yn ochr â chymorth ymarferol, daeth Nathan o hyd i rywbeth roedd wedi gweld ei eisiau ers blynyddoedd: y teimlad o berthyn.
“Roedden nhw’n mynd â fi allan, yn fy nghadw i’n brysur, yn mynd â fi i fowlio, yn chwarae pŵl. Ond yn fwy na dim, y teimlad eich bod yn rhan o rywbeth.
Eich bod chi’n bwysig i bobl. Roedd rhywun wir yn meddwl eich bod yn deilwng. Dyna’r gefnogaeth bwysicaf y gallwch chi ei chael, gwybod nad ydych chi ar eich pen eich hun.”
Pennod wahanol
Heddiw, mae Nathan yn dweud ei bod hi’n amhosibl bron adnabod ei fywyd o’i gymharu â phan ofynnodd am gymorth am y tro cyntaf.
“Mae siarad am y peth nawr yn gwneud i mi wenu. Mae fel pennod wahanol. Mae fel person gwahanol.
Do’n i ddim yn meddwl bod hapusrwydd yn bodoli. Rydw i wrth fy modd gyda lle rydw i nawr yn fy mywyd.”
Mae gan Nathan ei gartref ei hun erbyn hyn, rhywbeth y mae’n ei ddisgrifio fel un o’i lwyddiannau mwyaf.
“Fy nghartref yw fy lle diogel. Fy hafan. Dyna’r darn bach o dir sydd gen i. Fy myd.”
Wrth fyfyrio ar ei daith, mae Nathan yn glir am y rôl a chwaraeodd The Wallich o ran ei helpu i weddnewid ei fywyd.
“Alla’ i ddim diolch digon i’r staff. “Alla’ i ddim diolch digon i The Wallich.
Heb i’r person cyntaf hwnnw ddweud, ‘Fe wnawn ni dy helpu di yma,’ byddwn i’n dal i fod yn y gwter. A dweud y gwir, dydw i ddim yn meddwl y byddwn i yma heddiw.”
Edrych i’r dyfodol gyda gobaith
Mae profiadau Nathan wedi ei ysbrydoli i fod eisiau cefnogi eraill sy’n wynebu heriau fel y gwnaeth.
“Fy mwriad yw dod yn weithiwr cymorth. Rydw i eisiau helpu pobl a rhoi rhywbeth yn ôl.
Os oes unrhyw un yn meddwl bod dim cymorth ar gael, mae cymorth ar gael. Mae rhywun yno wastad.
Fydd y gweithwyr cymorth ddim yn eich barnu. Fyddan nhw ddim yn edrych i lawr arnoch chi. Maen nhw’n ddiffuant, yn garedig ac yn feddylgar, a dyna rydw i eisiau bod hefyd.
Rydw i’n berson gwell nawr nag erioed o’r blaen. Rydw i wrth fy modd. Hapusrwydd pur.”

Dywedodd Chris, Uwch Weithiwr Cymorth yn Nhŷ Tom Jones
“Rydw i wedi bod yn cefnogi Nathan dros yr wyth mis diwethaf, hyd nes iddo symud i mewn i’w eiddo ei hun.
Rydw i wedi gweld llawer o newid yn Nathan. Mae’n llawer hapusach ynddo’i hun, mae wedi dod allan o’i gragen ac yn byw bywyd i’r eithaf.
“O’i sefyllfa pan welais i Nathan am y tro cyntaf, mae’r cynnydd yn y cyfnod hwnnw’n anghredadwy.
Mae wedi cymryd camau breision, wedi cymryd y cyfan heb roi’r gorau iddi, ac wedi gweithio gyda mi ar hyd y ffordd. Rydw i mor falch ohono.”