Stori Tom: pŵer cerddoriaeth

17 Dec 2020

Ym mis Awst 2020, dechreuodd yr elusen therapi cerdd, Nordoff Robbins , brosiect wyth wythnos o hyd yn hostel y Wallich Sant Leonard yn Abertawe.

Trwy ganu, chwarae offerynnau, cyfansoddi caneuon a llawer mwy, cymerodd breswylwyr yr hostel ran mewn gweithgareddau cerdd am wyth diwrnod yn ystod yr wyth wythnos.

Mae Sant Leonard yn hostel breswyl â chymorth yn Abertawe ar gyfer dynion sy’n byw bywydau sy’n seiliedig ar ymatal, yn dilyn problemau gyda sylweddau fel cyffuriau neu alcohol.

Tra bod yr hostel yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau byw yn annibynnol, mae hefyd yn helpu pobl gyda’u hyder a’u llesiant.

Cyfarfod cerddorol

Cyfarfu Jo, Therapydd Cerdd gyda Nordoff Robbins, Tom* yn ystod ei hail wythnos yn Sant Leonard. Roedd Tom yn y lolfa gymunedol, lle cynhaliwyd y sesiynau cerdd. Roedd Jo yn paratoi ei hofferynnau a gwahoddodd hi Tom i aros am sesiwn cyntaf y diwrnod.

Dangosodd Tom ddiddordeb yn y tiwbiau bwrdd melodig, gan godi’r curwr a chwarae nodyn sengl, gan ddatgan bod sŵn yr offeryn yn ei ymlacio a’i fod yn mwynhau ei glywed yn atseinio.

Wrth iddo chwarae mwy o nodau, ymunodd Jo mewn ar y piano. Gwenodd Tom a dweud: “Nid ydw i erioed wedi gwneud hyn o’r blaen,” ond parhaodd i chwarae.

textimgblock-img

Wrth i Jo barhau i atseinio ei alawon byr, sefydlwyd deialog cerddorol rhyngddynt. Sylwodd Tom ar hynny, gan ddweud: “Mae’n debyg i gynnal sgwrs”.

Wrth i’w sgwrs gerddorol fynd rhagddi, dechreuodd Jo ddarparu cyfeiliant piano i gyd-fynd â’i alaw.

Erbyn hyn, Tom oedd yr unawdydd a daeth ei chwarae yn fwy sicr a mynegiannol.

Chwaraeodd ymadroddion melodig hirach a siglodd ei gorff yn reddfol

Cychwynnodd Jo gresendo a dilynodd Tom, gan chwarae’n fwy uchel ac ebychu:

 “Mae hwn yn wych!”

Ar ôl byrfyfyrio gyda’i gilydd am ran fwyaf y sesiwn, dechreuodd Tom siarad am ei fywyd.

Dywedodd Tom wrth Jo am y cyfnodau anodd yn ei orffennol, ei brofiadau yn y system cyfiawnder troseddol a’i frwydrau gydag iechyd meddwl a dibyniaeth.

Yn union fel y gwnaeth hi wrth chwarae’r offerynnau gyda’i gilydd, gwrandawodd Jo yn ofalus heb farnu Tom, gan fyfyrio ar yr hyn a ddywedodd a darparu cefnogaeth priodol.

Ar ddiwedd y sesiwn, diolchodd Tom i Jo, gan ddweud ei fod yn teimlo mai dyna’r union beth yr oedd ei angen arno’r diwrnod hwnnw, ac addawodd y byddai’n ei gweld eto.

Gwyliwch Tom yn chwarae

Tad a Mab

Er i Jo ei weld o dro i dro yn ystod ei hymweliadau wythnosol, nid oedd iechyd meddwl Tom wedi bod yn ddigon da i fynychu’r sesiynau.

Un dydd, dywedodd wrth Jo ei fod wedi clywed defnyddiwr gwasanaeth arall yn chwarae cân benodol, sef ‘Father and Son’ gan Cat Stevens, oedd wedi taro tant gydag ef.

Cafodd Tom ei atgoffa o’i dad gan y gân ac, ar ôl ei chlywed, roedd wedi trefnu ymweld â’i dad y diwrnod hwnnw.

Dyma brawf digamsyniol o bŵer cerddoriaeth a’r ffordd y gall gyrraedd ac effeithio ar bobl y tu hwnt i’r ystafell hon.

Pan welodd Tom yn ei sesiwn nesaf, dechreuodd Jo chwarae ‘Father and Son’ ar y piano. Fe’i cydnabu ar unwaith, gan ddweud:

“Nes di gofio! Nes di fy nghofio i! Does neb byth yn cofio amdana i!”

Ymunodd Tom yn y gân, gan hoelio pob gair, cyn gofyn i Jo chwarae mwy o ganeuon, er mwyn iddo allu parhau i ganu.

Cwmnïaeth

Yn ystod yr wythnos olaf o sesiynau therapi cerdd yn Sant Leonard, byrfyfyriodd Tom a Jo eto.

Wrth fyfyrio ar y sesiynau, soniodd Tom am y synnwyr cryf o gyfathrebu trwy gerddoriaeth a’r gwmnïaeth a deimlodd.

Er nad oedd Tom yn ymgysylltu’n rheolaidd, gwnaeth Jo ymdrech i ddod o hyd iddo bob wythnos, er mwyn gweld sut oedd e ac i’w atgoffa bod croeso iddo fynychu sesiynau therapi cerdd pryd bynnag y teimlai ei fod yn gallu.

Gwnaeth hynny argraff ar Tom.

Oherwydd bod Jo wedi gwrando ar ei fynegiant cerddorol, a chofio amdano a’i werthfawrogi yn ystod y sesiynau therapi cerdd, profodd Tom y teimlad o gael ei gofio a’i werthfawrogi fel unigolyn; rhywbeth y mae ef, a phawb arall yn hostel Sant Leonard, yn ei haeddu.

*Nid Tom yw enw go iawn y cleient, at ddiben diogelu ei hunaniaeth   

Tudalennau cysylltiedig