Mae mis Ebrill yn Fis Cenedlaethol Barddoniaeth, ac mae’r ysgrifenwyr yn ein plith, sy’n cymryd rhan yn y prosiectau rydym ni’n eu cynnal ym mhob rhan o Gymru, wedi cael eu hysbrydoli i rannu cerdd bob diwrnod yn ystod y mis.
Y dramodydd Owen Thomas sy’n arwain ein grŵp adrodd stori, ac maen nhw’n cwrdd yn wythnosol fel rhan o’r Prosiect Stori. Dywedodd Owen:
“Mae wedi bod yn bleser arwain y sesiynau ysgrifennu wythnosol fel rhan o’r Prosiect Stori. Bob wythnos, mae rhywun wedi ysgrifennu rhywbeth sydd wedi gwneud i ni gyd stopio’n stond. Dyma rai enghreifftiau…”
Mae’r awdur Steph Ellis yn gwirfoddoli gyda’r prosiect, ac yn helpu’r rhai sy’n dod i’r sesiynau yn Nhŷ Croeso, Wrecsam, bob dydd Mercher. Dywedodd:
“Roeddem ni eisiau rhannu’r holl dalentau rydym ni wedi eu canfod yn The Wallich o ganlyniad i’r Prosiect Stori. Mae’r cerddi’n bersonol ac yn llawn mynegiant, ac mae’r ysgrifenwyr yn falch o gael eu rhannu.”
Does dim diwedd ar eu creadigrwydd – mae’r nifer o’r lluniau sy’n cyd-fynd â’r cerddi wedi eu creu gan Sam, aelod talentog arall o’r grŵp yn Nhŷ Croeso.
Mae rhagor o wybodaeth am y Prosiect Stori
Ymunwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael dos o farddoniaeth: Facebook neu Instagram