Bob blwyddyn, mae The Wallich yn cefnogi dros 7,000 o bobl yng Nghymru gyda thai, llesiant, cyflogadwyedd a mwy.
Mae angen ymateb cymunedol i ddatrys digartrefedd.
Gall gweithio gyda bwytai, tafarndai, bariau, caffis a siopau tecawê yn ein cymunedau ein helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, am byth.
Byddem yn ddiolchgar dros ben pe gallech wneud addewid i roi rhan o gost pryd o fwyd neu ddiod sydd ar eich bwydlen i gefnogi The Wallich.
Beth bynnag fo’r swm, mae eich cefnogaeth yn golygu popeth i ni a phobl sy’n profi digartrefedd yng Nghymru.
Dyma ambell awgrym ar gyfer eich bwydlen.
*Cyfraniadau enghreifftiol, rydych chi’n dewis faint i’w addo.
Rydym yn ddigon ffodus i gael sefydliadau gwych i gymryd rhan yn y fenter Bwydlenni sy’n Bwysig.
Lot11, caffi yn Wrecsam wedi cyfrannu 50c o bob Tosti Twrci a werthwyd ganddynt, gan godi swm gwych o £250.
Dywedodd Sarah, perchennog a rheolwr Lot11:
“Fe wnaethon ni ddewis helpu The Wallich gan fod helpu’r rheini sy’n ddigartref yn rhywbeth sy’n agos at ein calonnau yn Ninas Wrecsam. Rydyn ni eisiau mynd i’r afael â’r problemau a gwneud unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i helpu.”
The Stable Caerdydd wedi rhoi 50p o bob pizza Nadolig Full Monty a werthwyd. Fe wnaethon nhw werthu 467 o pizzas Nadolig, gan godi swm anhygoel o £233.50.
Dywedodd Charley, Rheolwr Cyffredinol The Stable, Caerdydd:
“Mae gweithio mewn lletygarwch yng nghanol y ddinas yn aml yn golygu nosweithiau hwyr a boreau cynnar, sy’n golygu ein bod yn aml yn gweld pobl sy’n cysgu allan yn ceisio dod o hyd i loches neu rywle i gysgodi am y noson. Roedd yn ymddangos yn syniad gwych cefnogi The Wallich oherwydd eu gwaith caled yn darparu cymorth a chefnogaeth nid yn unig i gael pobl oddi ar y strydoedd, ond i barhau i fuddsoddi mewn pobl a rhoi cefnogaeth barhaus i’r rheini sydd mewn angen yn y gymuned ac ar y strydoedd sy’n amgylchynu ein hadeilad yn uniongyrchol.”
Gwella eich enw da ymysg cwsmeriaid a gosod eich hun ar wahân i’ch cystadleuwyr.
Bydd The Wallich yn rhannu eich addewid bwydlen â’n cefnogwyr ledled Cymru a allai helpu i gynyddu nifer y rhai sy’n ymweld â’ch lleoliad.
Mae cwsmeriaid yn fwyfwy awyddus i gefnogi busnesau sydd â chenhadaeth gymdeithasol.
Drwy gynnig addewid bwydlen i The Wallich, gallwch ddangos ymrwymiad i roi’n ôl, a gwneud rhywbeth am ddigartrefedd yn eich cymuned.
Gall ein tîm o arbenigwyr gynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb (dewisol) gyda’ch staff, gan sicrhau eu bod wedi’u harfogi a’u grymuso gyda’r wybodaeth i ateb unrhyw gwestiynau, neu gyfeirio at wasanaethau os bydd angen.
Bydd The Wallich yn darparu mynediad at adnoddau ar faterion digartrefedd yn eich ardal a bydd yno i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Tystysgrif o ddiolch y gallwch ei dangos yn eich lleoliad yn nodi faint o arian rydych chi wedi’i godi ar gyfer The Wallich.
Bydd eich cyfraniad yn helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yn ein cymunedau.
Mae tair rhan i genhadaeth The Wallich, helpu i gael pobl oddi ar y strydoedd, cadw pobl oddi ar y strydoedd a chreu cyfleoedd i bobl.
Rydyn ni’n arbenigo mewn darparu gwasanaethau i bobl sy’n aml yn cael eu heithrio o wasanaethau eraill ac sy’n cael trafferth cael gafael ar lety neu gadw eu tenantiaeth.
Mae’r amrediad o wasanaethau mae The Wallich yn eu cynnig mor amrywiol â’r grŵp o gleientiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw.
Mae atebion tymor hir, yn hytrach nag atebion tymor byr, yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau er mwyn byw bywyd mwy diogel, hapusach a mwy annibynnol.
Drwy godi arian hanfodol, gall eich busnes helpu rhywun fel Emily*.
Wynebodd Emily naw mlynedd o gam-drin emosiynol a chorfforol ar ei phen ei hun.
Gyda help gan The Wallich, mae Emily bellach yn teimlo’n ddiogel yn ei llety â chymorth, ac mae’n paratoi ar gyfer ei dyfodol.
“Oni bai am The Wallich, fyddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Mae’r holl staff yn glên ac i gyd yn eich helpu chi.”
“Dwi’n meddwl fy mod i wedi tyfu ers i mi ddod yma. Dwi wedi gwneud llwyth o ffrindiau newydd ers dod yma. Mae’n teimlo’n saff iawn yma. Mae’r staff yn gwneud yn siŵr ein bod ni mewn amgylchedd diogel.”
Cysylltwch â dosomething@thewallich.net neu ffoniwch 02920 668464 opsiwn 2 a bydd ein tîm wrth law i’ch helpu i ddechrau arni!