Cwnselwyr y Rhwydwaith Myfyrio

22 Dec 2022

Mae Rhwydwaith Myfyrio’r Wallich yn wasanaeth cwnsela adweithiol i helpu ein defnyddwyr gwasanaeth i ddelio â thrawma digartrefedd a phroblemau cysylltiedig.

Mae ein rhwydwaith o gwnselwyr yn gweithio ar hyd a lled Cymru gyfan a’r nod yw gallu cysylltu â phobl o fewn 56 diwrnod ar ôl iddynt gael eu hatgyfeirio.

Sefydlwyd y gwasanaeth hwn i sicrhau bod gan ein defnyddwyr gwasanaeth sydd â phrofiad o ddigartrefedd, problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau neu’r system cyfiawnder troseddol, fynediad cyflymach at y gofal sy’n ystyriol o drawma sydd ei angen arnynt.

Ers lansio’r Rhwydwaith Myfyrio ym mis Mawrth 2019, rydym wedi hwyluso mwy na 5,000 o apwyntiadau cwnsela.

Cwrdd â rhai o’n cwnselwyr

Nicola Branson

textimgblock-img

Mae Nicola wedi’i lleoli yn y Barri, Bro Morgannwg, ac mae wedi’i hyfforddi mewn Therapi Dirfodaeth Ddyneiddiol ac Ymrwymiad Derbyn.

Ymunodd Nicola â’r Rhwydwaith Myfyrio yn 2019.

Meddai:

Rwyf yn cael boddhad enfawr wrth weld cleientiaid yn gwella ansawdd eu bywydau neu’n symud yn nes at y bywydau yr hoffent eu byw.

Gall hyn ddigwydd drwy adnabod patrymau ymdopi sy’n niweidiol, drwy ddeall beth maent am ei gael neu efallai drwy gymryd camau i ddygymod â thrawma o’r gorffennol a gwybod nad oes yn rhaid i hyn eu diffinio.

Mae’r Rhwydwaith Myfyrio wedi bod yn gefnogol bob amser i mi ac i fy rôl.

Rwy’n teimlo bod y meddwl cydlynus a’r cysylltiad rhwng staff cymorth a’r gwasanaeth wedi bod yn gryf bob amser, yn enwedig wrth reoli argyfyngau.

Mae’r cymorth hwn yn hanfodol ac nid yw’n amlwg ym mhob sefydliad.”

Stephanie Allen

textimgblock-img

Mae Stephanie yn gwnselydd ac yn hyfforddwr bywyd, gyda chyfoeth o brofiad o weithio â sefydliadau fel Mind, New Pathways, Gweithredu dros Blant, yn ogystal â’i phrofiadau ei hun.

Stephanie oedd y cwnselydd cyntaf i ymuno â’r Rhwydwaith Myfyrio ym mis Mawrth 2019.

Meddai Stephanie:

“Mae gweithio â’r Wallich a’r grŵp hwn o gleientiaid yn rhoi boddhad enfawr imi yn fy ngwaith.

Rwyf wedi canfod bod y rhan fwyaf o fy nghleientiaid yn dioddef fel oedolion, o effeithiau profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, sydd wedi gwneud i lawer o bobl ddibynnu ar gyffuriau ac alcohol, gan fod y presennol yn lle anodd yn emosiynol ac yn feddyliol i fod ynddo.

Rwy’n teimlo bod cwnsela wedi helpu fy nghleientiaid i fyfyrio ar y gorffennol, i ddeall sut mae eu plentyndod wedi dylanwadu ar eu presennol a sut maent yn gweld eu hunain. Mae hefyd wedi eu galluogi i ddod allan o’u rhigol, i symud ymlaen ac i ailfeddiannu eu bywydau.

Mae pobl â gorbryder cymdeithasol wedi gallu adfeddiannu eu bywydau drwy ganfod y dewrder i fynd allan o’r diwedd a chymdeithasu, a chefnu ar yr unigrwydd, yr ynysigrwydd, yr iselder a’r gorbryder.

Mae’n wir dweud mai’r hyn sy’n gwneud gweithio â’r grŵp o gleientiaid agored i niwed hwn yn effeithiol yw cefnogaeth barhaol a pharhaus y Rhwydwaith Myfyrio.

Mae gwybod pan fyddaf yn gweithio â chleient sy’n cael meddyliau am hunanladdiad, bod modd imi droi at Reolwr Rhwydwaith Myfyrio y Wallich, Steve, i roi tîm o weithwyr cymorth ar waith i helpu cleientiaid, ar adeg pan fyddant ar eu mwyaf bregus, a phan mae fwyaf o angen help arnynt, yn rhoi tawelwch meddwl mawr imi fel Cwnselydd.

Mae’n wir i ddweud y gallai llawer o sefydliadau elwa drwy fabwysiadu egwyddorion, gwerthoedd a moeseg y Rhwydwaith Myfyrio.”

textimgblock-img

Sue O’Brien

Mae Sue, sy’n gwnselydd i Gaerdydd, wedi’i hyfforddi’n systematig gyda meddwl dirfodol.

Mae Sue wedi gweithio ag amrywiaeth eang o gleientiaid gan gynnwys pobl sy’n cael meddyliau neu sydd â bwriad i gyflawni hunanladdiad, sydd ag anhwylderau bwyta, Anhwylder Straen Ôl-drawmatig Cymhleth, camddefnyddio sylweddau, a mwy.

Ymunodd Sue â’r Rhwydwaith Myfyrio yn 2020.

Meddai:

“Nid fy ngwaith i yw dweud wrth y cleient beth i’w wneud – rwyf yn cael fy arwain gan y cleient, ac yn aml mi fydd gan y cleient gynllun i ddod â newid i’w bywydau. Ond pan fyddant yn dechrau meddwl sut fydd hynny’n edrych, maent yn sylweddoli eu bod yn hapus â phethau fel y maent – derbyn yw popeth.

Rwyf o’r farn bod y Rhwydwaith Myfyrio’n cael ei reoli’n dda iawn, o fy safbwynt i, ac o safbwynt y cleientiaid.

Bydd pobl sydd wedi profi trawma neu brofiad niweidiol mewn plentyndod yn aml yn byw mewn cyflwr o uwchwyliadwriaeth. Rwyf yn eu helpu i ddysgu’r gwahaniaeth rhwng bygythiad real ac un tybiedig.

Rwy’n credu mai’r peth pwysicaf y gallaf ei wneud iddynt yw eu helpu i deimlo’n ddiogel, rhoi’r sicrwydd iddynt nad ydynt yn mynd yn wallgof.

Rwyf yn helpu cleientiaid i weld mai’r hyn maent yn ceisio delio ag ef yw atgofion, a bod yr hyn maent yn ei brofi’n rhywbeth corfforol a biolegol.

Pan fyddant yn dechrau edrych ar bethau’n wahanol, gallant sylweddoli nad ydynt wedi’u niweidio ac y gall pethau wella.”

Cofrestrwch eich diddordeb i fod yn gwnselydd â’r Rhwydwaith Myfyrio heddiw

Teimlo’n ysbrydoledig? Rydym yn chwilio am gwnselwyr medrus a thosturiol i ymuno â’n Rhwydwaith.

Mi gewch ddisgrifiad llawn o’r hyn rydym yn chwilio amdano ar ein tudalen tudalen we Rhwydwaith Myfyrio.

I ddatgan eich diddordeb, anfonwch e-bost i reflections.network@thewallich.net i drefnu cyfarfod.

Yn anffodus ni allwn gymryd myfyrwyr ar leoliad.

Tudalennau cysylltiedig