Ffigurau gan ONS 2021 am farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau

Cafodd y blog ei ysgrifennu gan Bennaeth Gweithrediadau PIE a Gwasanaethau Therapiwtig, Anthony Vaughan

16 Aug 2022

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi rhyddhau’r ffigurau diweddaraf am farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yng Nghymru a Lloegr, sydd bellach yn draddodiad blynyddol ingol, ac nid yw’n hawdd eu darllen.

Marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau yng Nghymru a Lloegr: Cofrestriadau 2021

Cafodd 4,859 o farwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr yn 2021. Dyma’r nifer uchaf erioed ar gyfer yr 11eg flwyddyn yn olynol.

Mae hyn yn cyfateb i 84.4 marwolaeth fesul miliwn o bobl ac mae’n gynnydd o 6.2% o’i gymharu â’r nifer a gofnodwyd yn 2020.

Dyma rai o’r prif ganfyddiadau eraill:

  • ‘Camddefnyddio cyffuriau’ oedd y rheswm am 3,060 o’r marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau.
  • Mae cyfraddau marwolaethau yn sgil ‘camddefnyddio cyffuriau’ yn dal yn uwch ymysg ‘Cenhedlaeth X’: y rheini a gafodd eu geni yn y 1970au. Roedd y cyfraddau ar eu huchaf ymysg y rheini rhwng 45 a 49 oed.
  • Roedd bron i hanner yr holl farwolaethau’n cynnwys opiad, ac roedd dros hanner yn cynnwys mwy nag un cyffur.
  • Roedd 840 o farwolaethau yn ymwneud â chocên, cynnydd o 8.1% ers y llynedd.
  • Canfuwyd bod llawer mwy o ddynion (3,275) wedi marw oherwydd cyffuriau na menywod (1,584).
  • Mae nifer y marwolaethau oherwydd cyffuriau yng Nghymru wedi codi i’r lefelau uchaf erioed sef 322 neu 51.1 marwolaeth fesul miliwn o bobl. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod oedi wrth gofrestru marwolaethau oherwydd bod y pandemig wedi effeithio ar y ffigurau.

Sut gallwn ni ddysgu o hyn?

Mae’r 3,060 o farwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau yn golygu bod y farwolaeth wedi cynnwys sylwedd anghyfreithlon, neu fod yr adroddiad wedi nodi bod camddefnyddio cyffuriau neu ddibyniaeth ar gyffuriau wedi chwarae rhan.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi nad yw gwybodaeth am y cyffuriau penodol ar gael bob tro ac felly mae’r ffigur ar gyfer marwolaethau oherwydd camddefnyddio cyffuriau wedi’i danamcangyfrif.

Mae hyn yn golygu bod o leiaf ddwy ran o dair o gyfanswm y 4,859 o farwolaethau yn golygu bod rhywun yn cymryd cyffur am ba reswm bynnag ac yn marw’n ddamweiniol.

Mae hyn yn golygu y byddid wedi gallu osgoi’r rhan fwyaf o’r marwolaethau hynny.

Byddai’r rhan fwyaf o’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi sy’n defnyddio sylweddau yn dod o dan y diffiniad ‘camddefnyddio cyffuriau’ a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn, felly mae’n bwysig bod gennym ni berthynas dda â nhw er mwyn iddyn nhw allu bod yn onest am yr hyn maen nhw’n ei ddefnyddio.

Drwy wneud hyn, gallwn wneud gwaith lleihau niwed a allai, yn y pen draw, achub eu bywydau.

Heb fanylion pob marwolaeth, mae’n amhosibl gwybod yn siŵr, ond mae’n debygol y gellid bod wedi osgoi llawer ohonynt pe bai rhywfaint o gamau lleihau niwed syml wedi cael eu cymryd.

Egwyddorion lleihau niwed rydyn ni’n eu defnyddio yn The Wallich, fel:

  • Peidio â defnyddio ar eich pen eich hun
  • Bod Naloxone ar gael
  • Gwybod beth yn union yw’r sylwedd neu beth sydd ynddo
  • Gwybod beth yw cryfder y sylwedd
  • Profi sylwedd newydd drwy ddechrau’n araf gyda dos bach
  • Ysmygu yn hytrach na chwistrellu
  • Osgoi defnyddio mwy nag un cyffur

Marwolaethau benso

Un o’r ffigurau trawiadol eraill o’r adroddiad yw bod cynnydd o 88.3% yn nifer y marwolaethau sy’n cynnwys sylweddau seicoweithredol newydd, gan godi i 258 o 137 yn 2020.

Mae’r cynnydd yn cael ei briodoli i gynnydd yn nifer y marwolaethau sy’n ymwneud ag analogau bensodiasepin, sef flubromazolam ac etizolam yn bennaf.

Mae’r ffigurau a nodir yn dangos cynnydd o 13% yn y marwolaethau sy’n gysylltiedig â bensos ers 2020 (476 i 538), yn ogystal â chynnydd o 18.9% mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â pregabalin (344 i 409), a chynnydd o 12.7% mewn marwolaethau sy’n gysylltiedig â gabapentin (118 i 133).

Atal

Mae llawer o’r bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn defnyddio’r sylweddau hyn, ac mae llawer yn defnyddio amryw o gyffuriau, ac mae llawer yn yr ystod oedran ‘Cenhedlaeth X sef 45-49’.

Yn gryno, rydyn ni’n gweithio gyda llawer o bobl a allai gael eu cynnwys yn y ffigurau hyn y flwyddyn nesaf heb ymyriadau cadarnhaol.

Dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod yn dal ati i feithrin perthynas dda a gweithio’n agos gyda chleientiaid, er mwyn lleihau’r niwed drwy siarad â nhw am eu defnydd o sylweddau a chydweithio i greu cynlluniau diogelwch sy’n cynnwys gwybodaeth ddiweddar a pherthnasol.

Mae cynlluniau diogelwch yn arbennig o bwysig i wneud yn union beth maen nhw i fod i’w wneud – cadw pobl yn ddiogel.