Yn ystod adegau ansicr, rydym ni angen mwy o gefnogaeth nag erioed

Postiad gan Michael Cowley, Uwch Reolwr Codi Arian a Phartneriaethau

20 Sep 2019
Y llynedd, gwnaeth eich cyfraniadau rheolaidd chi helpu i godi £18,275 – digon i gadw rhywun oddi ar y strydoedd yn ein Lloches Nos yng Nghaerdydd am flwyddyn gyfan.  Mae cyfrannu yn rheolaidd yn helpu elusennau fel The Wallich i sicrhau y bydd ei wasanaethau yn parhau yn y dyfodol.

Mae adroddiad blynyddol Adroddiad Cyfrannu’r DU gan y Sefydliad Cymorth i Elusennau yn tynnu sylw at duedd tuag at i lawr mewn pobl sy’n cyfrannu at yr achosion y maen nhw’n malio amdanyn nhw.  Yn bryderus, dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol y mae llai o bobl yn cyfrannu tuag at elusen.

Pam mae hyn yn digwydd?  Mae’n eglur bod ymddiriedaeth mewn elusennau wedi cael ei threthu yn ystod y blynyddoedd diweddar, a chydag effeithiau cyni parhaus a rhywfaint o ansicrwydd am y dyfodol (peidiwch â chrybwyll y gair sy’n dechrau gyda B), mae pobl yn syml yn bod yn fwy gofalus gyda’u harian.

Achosion i bryderu amdanyn nhw

Mae gwasanaethau sy’n cefnogi pobl gyda phroblemau cymdeithasol-economiadd yn wynebu galw digyffelyb ac rydym ni angen eich cefnogaeth chi yn awr, fwy nag erioed.

Mae elusennau yn ategu ein cymdeithas.  P’un a ydyn nhw’n cyflawni gwasanaethau hanfodol ar ran y llywodraeth neu’n helpu i lenwi’r bylchau lle mae darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn gorffen, mae elusennau ar gael ar gyfer pobl sydd mewn angen.  A chyda cefnogaeth y cyhoedd, gall elusennau helpu yn ogystal i ddatblygu gwasanaethau newydd ac arloesol, drwy arwain y ffordd yn aml i sbarduno newid yn y modd yr ydym yn cefnogi pobl.

Heb gefnogaeth werthfawr gan ein cymunedau, ni fydd elusennau yn syml yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol; gan roi mwy o straen ar system sydd eisoes yn gweithio i’r eithaf.

Rhoddwyr rheolaidd, pobl eithriadol

Mae bywyd yn brysur ac yn aml ni allwn ni gael yr amser i weithredu ar fympwy – pa mor aml ydych chi’n gweld eich hun yn cael eich ysbrydoli, gan feddwl yr hoffech chi wneud rhywbeth i helpu, cymryd rhan mewn digwyddiad, ymuno mewn protest, gwneud cyfraniad neu wirfoddoli dros yr achosion yr ydych chi’n malio amdanyn nhw?  Ac yna pa mor aml y mae pethau eraill yn cael blaenoriaeth?

Mae sefydlu cyfraniad rheolaidd yn ffordd wych o ddarparu cefnogaeth barhaus, gynaliadwy.  Heb anghofio ei bod yn ffordd gyflym, hawdd a chyfleus i chi.  Gyda rhodd fechan bob mis, gallwch chi fod yn sicr eich bod yn parhau i gefnogi’r achosion yr ydych chi’n malio amdanyn nhw – hyd yn oed pan mae bywyd yn brysur.

Inni, mae £4 y mis yn unig yn golygu bob blwyddyn y gallwch chi dalu am wely am noson yn un o’n Llochesau Nos mewn argyfwng – gan helpu rhywun i ddod oddi ar y strydoedd ac i le diogel.

Y llynedd, llwyddodd ein rhoddwyr sy’n cefnogi gyda rhodd reolaidd godi £18,275 – gan gynnwys cost rhedeg ein Lloches Nos yng Nghaerdydd am bron i fis ac atal mwy na 500 achos o gysgu yn yr awyr agored yn y brifddinas.

Mae’r ymrwymiad bychan hwn – cost coffi ar fore dydd Llun unwaith y mis, er enghraifft – yn gallu achub bywyd yn wirioneddol.

Mewn amseroedd ansicr, mae gallu dibynnu ar gefnogaeth reolaidd yn ein helpu ni i gynllunio ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod ni yno bob amser i gynnig cefnogaeth pan mae pobl ein hangen ni.

Mae mor hawdd ag 1, 2, 3

Mae gennym dair ffordd y gallwch chi sefydlu rhodd reolaidd er mwyn helpu pobl sy’n ddigartref yng Nghymru.  Tra’r ydych chi yma, pan na wnewch chi feddwl am ein helpu ni i gynnal eu dyfodol:

Ar-lein

Ewch i thewallich.com/donate er mwyn dewis faint yr hoffech chi ei roi, ac yn syml, cwblhewch y ffurflen gan nodi pa mor aml yr ydych chi am gyfrannu, Misol neu Flynyddol.

Testun

Er mwyn rhoi drwy eich ffôn symudol, anfonwch destun WARM at 70660 er mwyn cyfrannu £4 y mis. Ewch i’r thewallich.com/terms/ er mwyn cael manylion llawn.

Cyfrannu trwy’r gyflogres

Gwnewch gyfraniad rheolaidd o’ch cyflog, cyn treth, gan wneud eich arian fynd ymhellach (er enghraifft, byddai cyfraniad misol o £5 yn costio £4 yn unig i chi).  Siaradwch â’ch cyflogwr ynglŷn ag oes ganddyn nhw gyfleuster cyfrannu drwy’r gyflogres neu ewch i dudalen cyfrannu drwy’r gyflogres ar ein gwefan er mwyn cofrestru.

Tudalennau cysylltiedig