Rhedwch Hanner Marathon eiconig Caerdydd ar gyfer un o brif elusennau digartrefedd a chysgu allan Cymru
Mae Hanner Marathon Caerdydd yn ras 13.1 milltir sy’n enwog am ei llwybr gwastad, cyflym ac eiconig trwy brifddinas Cymru.
Mae wedi dod yn fwyfwy poblogaidd o un flwyddyn i’r llall, gan ddenu rhedwyr o bob oed a gallu.
Ers 2022, mae mwy na 100 o redwyr anhygoel wedi cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ar ran The Wallich.
Drwy gofrestru gyda ni heddiw, byddwch yn ymuno ag aelodau anhygoel eraill o #TîmWallich sydd i gyd wedi gwneud rhywbeth i atal digartrefedd yng Nghymru.
Pryd y cynhelir Hanner Marathon Caerdydd?
Dydd Sul 4 Hydref 2026
Pam rhedeg Hanner Marathon Caerdydd dros The Wallich?
Yn ogystal â helpu i gefnogi ein gwasanaethau hanfodol, bydd pawb sy’n ymuno â #TîmWallich yn cael:
- Tocyn i redeg ras Hanner Marathon Caerdydd (sy’n cynnwys eich crys-T swyddogol a medal am gwblhau’r ras)
- Vest #TîmWallich am ddim (codi arian £50)
- Crys-T redeg #TîmWallich am ddim (codi arian £300)
- Cymorth personol i godi arian
- Cynlluniau hyfforddi wedi’u teilwra ar gyfer pob math o redwyr
- Cefnogaeth ar ddiwrnod y ras gan ein criw o gefnogwyr
- Danteithion a chyfle i ddathlu ar ôl y ras!
Sut mae gwneud cais am le gyda The Wallich yn Hanner Marathon Caerdydd?
Mae’r holl leoedd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2026 wedi’u gwerthu.

Unedig yn Erbyn Digartrefedd
Mae elusennau digartrefedd Cymru, The Wallich, Shelter Cymru, Crisis a Llamau, wedi dod at ei gilydd i annog rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi un achos cyffredin.
Mae’r pedwar sefydliad digartrefedd yng Nghymru wedi dod ynghyd ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd 2023 i dynnu sylw at yr effaith maen nhw’n ei chael, yn unigol ac ar y cyd, ar gefnogi pobl sy’n wynebu a/neu’n profi digartrefedd.
Cysylltu
E-bost: dosomething@thewallich.net
Ffoniwch: 02920 668 464 (Opsiwn 2)