Ceredigion
CeredigionResidential@thewallich.net
01970 612 736
I bobl sengl ddigartref sydd angen lefel isel o gymorth, neu i unigolion sy’n barod i symud ymlaen o brosiectau lle maent wedi derbyn lefel uchel o gymorth ac sy’n dymuno cynyddu eu hannibyniaeth.
Rydym yn helpu preswylwyr i gael mwy o reolaeth a dealltwriaeth ac i ymwneud mwy â’r materion y maent wedi’u nodi fel rhai y mae arnynt angen cymorth â hwy, gyda’r bwriad o ddod o hyd i lety annibynnol addas a chynaliadwy.
Rydym yn helpu preswylwyr â phethau fel:
Rydym hefyd yn gweithio mewn cysylltiad agos ag adran dai yr awdurdod lleol i helpu preswylwyr i gwblhau camau gweithredu yn y Cynlluniau Llety a roddir gan y swyddogion tai.
Mae chwe ystafell wely a chaiff y preswylwyr ddefnyddio ystafelloedd cyffredin a chyfleusterau a rennir.
Mae hyd yr arhosiad yn amrywio, gan ddibynnu ar anghenion cymorth pob preswylydd ac a oes llety addas ar gael i symud ymlaen iddo.
Mae’r Wallich yn credu mai unigolion ag anghenion cymorth amrywiol a gwahanol yw pobl ddigartref ac agored i niwed.
Profwyd y gall byw mewn Amgylchedd sy’n Ystyriol o Feddylfryd Seicolegol (PIE) helpu i’w hadfer yn llwyddiannus.
Rydyn ni eisiau darparu gwasanaethau arloesol sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth o drawma, a chyfateb pobl cystal ag y gallwn â chymorth sy’n addas iddyn nhw.