Ceredigion
CeredigionOutreachServices@thewallich.net
01970 611832
Mae Atebion Ceredigion yn cynnig cyngor, cefnogaeth a chymorth i bobl sy’n ddigartref, mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n wynebu anawsterau tai

Gallwn gefnogi pobl i wneud y canlynol:
- Dod o hyd i lety addas
- Rheoli ôl-ddyledion rhent neu ddyledion eraill
- Hawlio budd-daliadau perthnasol
- Datrys problemau gyda hawliadau budd-daliadau presennol
- Cael gafael ar wasanaethau iechyd neu ddefnyddio sylweddau ac asiantaethau perthnasol eraill.
Cynigir apwyntiadau yn y gymuned neu yng nghartref unigolyn.

Cymorth i bobl sy’n cysgu allan
Mae’r Wallich hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gydag unigolion sy’n cysgu allan.
Rydym yn cynnig cyngor a chymorth i geisio ailgartrefu unigolion, ond rydym hefyd yn rhoi cymorth ymarferol fel sachau cysgu, pecynnau i bobl sy’n cysgu allan, dillad a bwyd.
Gallwn hefyd roi mynediad at gyfleusterau golchi dillad, cawod neu faddon a bwyd poeth.
Galwch heibio i’n gweld ni
Mae croeso i bobl sy’n cysgu allan alw heibio rhwng 10am a 1pm o ddydd Llun i ddydd Gwener i gael gwybod sut i gael cymorth.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â ni.
